Neidio i'r prif gynnwy

Mae astudiaeth newydd o dadau yn y carchar yn dangos sut mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn parhau o un genhedlaeth i'r llall

Cyhoeddwyd: 24 Hydref 2024

Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, yn amlygu sut y ceir profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) ar draws cenedlaethau. Roedd yr astudiaeth a gyhoeddwyd yn Amddiffyn ac Ymarfer Plant (Saesneg yn unig), yn dadansoddi data a gasglwyd gan 294 o dadau rhwng 18 a 69 oed mewn carchar yng Nghymru. Adroddodd tadau am eu hamlygiad eu hunain at ACEs a’r ACEs yr oedd eu plant wedi bod yn agored iddynt.

Mae ACEs yn ddigwyddiadau llawn straen sy’n digwydd yn ystod plentyndod, fel camdriniaeth, rhieni’n gwahanu neu’n ysgaru, bod ag aelod o’r teulu yn y carchar neu dyfu i fyny ar aelwyd lle mae trais domestig, camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl yn bresennol. Dywedodd bron i hanner y tadau yn y carchar a gymerodd ran fod ganddynt bedwar ACE neu fwy. Roedd traean yn dweud eu bod yn byw gyda rhywun a dreuliodd amser neu a ddedfrydwyd i dreulio amser mewn carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc cyn 18 oed. 

Dangoswyd bod dod i gysylltiad â sawl ACE yn effeithio’n aruthrol ar iechyd a llesiant unigolion yn ystod eu hoes, gan gynyddu’n sylweddol y risgiau o ymddygiadau sy’n niweidio iechyd ac iechyd corfforol a meddyliol gwael.

O’r 671 o blant yr adroddwyd amdanynt gan y tadau yn y carchar, adroddwyd bod un rhan o bump wedi cael eu hamlygu i bedwar ACE neu fwy. Canfuwyd bod amlygiad tadau i ACE yn cynyddu’r risg o amlygiad plentyn i fathau unigol o ACE ac ACEs lluosog. Felly, o’u cymharu â phlant y tadau nad oedd ganddynt ACEs, roedd plant tadau a oedd â phedwar ACE neu fwy: 

  • bron deirgwaith yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â dau neu dri ACE a chwe gwaith yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â phedwar ACE neu fwy 
  • ddwywaith yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â thrais domestig 
  • dros saith gwaith yn fwy tebygol o fyw ar aelwyd lle roedd salwch meddwl yn bresennol

Ar ben hynny, roedd amlygiad plant â phob math ACE unigol, ac eithrio cam-drin rhywiol a chorfforol, yn gysylltiedig â’r ffaith bod gan eu tad yr un ACE.  

Mae gan y canfyddiadau oblygiadau sylweddol i wasanaethau iechyd y cyhoedd a chyfiawnder troseddol. Er mwyn atal ACEs a chyfyngu ar eu heffeithiau negyddol, mae angen i wasanaethau cyfiawnder troseddol fod yn ystyriol o drawma ac yn ymwybodol o ACE. Mae angen dulliau ehangach sy’n cefnogi teuluoedd cyfan i atal ACEs a meithrin gwytnwch hefyd, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd eisoes mewn cysylltiad â systemau cyfiawnder troseddol. 

Dywedodd Dr Kat Ford, Prifysgol Bangor: 

“Gall ACEs gynyddu risg pobl o ystod eang o anawsterau iechyd a chymdeithasol drwy gydol eu hoes, megis defnyddio sylweddau, salwch meddwl a thrais. Yn eu tro, gall yr anawsterau hyn ddod yn ACEs ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae’r astudiaeth yn ychwanegu pwysau pellach at gorff cynyddol o dystiolaeth sy’n amlygu’r angen i ganolbwyntio ar atal ACEs.” 

Dywedodd yr Athro Karen Hughes o’r Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae poblogaethau carchardai’n aml yn adrodd am adfyd sylweddol yn hanes eu plentyndod ac mae trosglwyddo ACEs rhwng cenedlaethau a welwyd yn ein hastudiaeth yn amlygu pwysigrwydd cymorth i deuluoedd sy’n ymwneud â chyfiawnder”