Neidio i'r prif gynnwy

Mae astudiaeth newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall pa grwpiau sydd angen mwy o gymorth i roi'r gorau i ysmygu

Cyhoeddwyd: 7 Ebrill 2025

Nod dadansoddiad newydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw helpugweithwyr iechyd proffesiynol a llunwyr polisi i ganolbwyntio eu hymdrechion arleihau smygu.

Defnyddiodd yr astudiaeth dechnegau dysgu peirianyddol newydd, a edrychoddar dros chwe deg o nodweddion pobl a oedd yn dal i smygu a phobl a oedd wedirhoi'r gorau iddi yn llwyddiannus. Defnyddiodd y nodweddion hynny i greugrwpiau newydd o bobl ifanc ac oedolion â phroffiliau gwahanol, er mwyn helpu iddeall pwy allai fod angen mwy o gymorth i roi'r gorau i smygu.

Mae teilwra rhoi’r gorau i smygu i ddiwallu anghenion pobl sy’n cael trafferthrhoi’r gorau iddi neu'n amharod gwneud hynny yn hanfodol er mwyn cyflawni nodLlywodraeth Cymru o Gymru ddi-fwg erbyn 2030. Er bod mwy a mwy o bobl yngNghymru yn troi cefn ar smygu, mae angen ymdrech ychwanegol i helpu’r rhaisy’n parhau i smygu neu sydd hyd yn oed yn dechrau smygu.Mae amddiffyn plant rhag niwed smygu yn hanfodol.

Mae naw o bob 10 osmygwyr oes yn dechrau rhwng 10 ac 20 oed, gan gynyddu'r risg o glefyd yrysgyfaint, clefyd cardiofasgwlaidd ac amrywiaeth o ganserau. Mae'r rhan fwyaf osmygwyr yn dymuno na fyddent erioed wedi dechrau, ond mae goresgyn yddibyniaeth yn anodd.

Nododd y dadansoddiad hwn chwe grŵp gwahanol o boblifanc 11-16 oed, a oedd yn fwy tebygol o smygu (e.e. yn seiliedig ar eu llesiantmeddyliol, eu defnydd o alcohol a chyffuriau a'u gweithgarwch corfforol).Canfu ymchwilwyr hefyd y gallai oedolion sy'n smygu hefyd gael eu rhannu'ngrwpiau gwahanol. Er enghraifft, roedd un grŵp yn cynnwys smygwyr hŷn, wedi Iechyd Cyhoeddus CymruAwdur: Dyddiad:Fersiwn: Rhif y dudalen: 2ymddeol yn bennaf, a oedd â digon o arian i fyw bywyd da, yn fodlon ar eu bywydond a oedd yn dioddef o iechyd gwael.

Diffiniwyd grwpiau eraill gan oedran iau,cyflogaeth, statws priodasol neu addysgol, p'un a oeddent yn byw gyda phlant,defnydd o alcohol, fepio neu amddifadedd.Bydd y mewnwelediadau o'r ymchwil hon yn helpu llunwyr polisi iechyd ac addysgi lunio canllawiau a strategaethau ar gyfer ymdrechion rhoi'r gorau i smygu.

Ynogystal, gallai helpu meddygon teulu i ddeall yn well y cyfuniadau o gymhellionac amgylchiadau posibl ar gyfer smygu ymhlith eu cleifion er mwyn teilwra cyngorneu atgyfeirio i wasanaethau Helpa Fi i Stopio.

Dywedodd Annette Evans, Prif Ystadegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Maedefnyddio'r technegau ystadegol hyn ar arolygon poblogaeth mawr wedi rhoicipolwg newydd i ni o bwy sy’n dal i smygu tybaco yng Nghymru.“Mae’r dadansoddiad hwn yn dangos gwerth defnyddio data yn ein hymdrechioni atal y defnydd o dybaco a lliniaru’r niwed y mae’n ei achosi i iechyd a llesiant, abydd yn helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o Gymru ddi-fwg erbyn 2030”.

Gellir dod o hyd i'r adroddiad yma.