Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen i anghenion iechyd a llesiant y gymuned bysgota fod yn ganolog i'r ymateb i Brexit – adroddiad newydd

Mae adroddiad newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd diogelu llesiant cymunedau pysgota Cymru wrth iddynt wynebu ansicrwydd ac effaith economaidd niweidiol bosibl Brexit.

Mae'r cyhoeddiad, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Sefydliad Iechyd Meddwl, yn nodi effeithiau iechyd a llesiant yr heriau a'r ansicrwydd niferus sy'n wynebu cymunedau pysgota yng Nghymru. Mae'r materion hirsefydlog hyn yn debygol o gael eu gwaethygu ymhellach gan Brexit, gan ddod â ffynhonnell ychwanegol o straen i dros 800 o weithwyr a'u teuluoedd.

Mae'r adroddiad yn galw am fwy o weithredu i atal ansicrwydd rhag digwydd yn y lle cyntaf, i ddiogelu rhag yr effaith negyddol ar lesiant meddyliol, a hyrwyddo iechyd a llesiant yng nghymunedau pysgota Cymru. Mae iechyd da, mae'r adroddiad yn dadlau, yn hanfodol i'r rhai sy'n gweithio yn y sector i gynnal bywoliaeth hyfyw i'w teuluoedd.

Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Am genedlaethau mae ein cymunedau pysgota ac arfordirol wedi ymateb i galedi drwy ddefnyddio eu cryfderau sylweddol eu hunain. Fodd bynnag, yn aml nid yw'r ffocws ar eu hiechyd a'u llesiant yn cael blaenoriaeth.

“Er bod Brexit yn bryder, mae ein hadroddiad newydd yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o heriau eraill ym myd pysgota heddiw, a'r adfyd hwn sy'n cronni sy'n rhoi pwysau gormodol ar y gymuned bysgota.

“Mae angen i ni weithio gyda chymunedau pysgota i gydlynu cymorth yn well, integreiddio iechyd, ac annog mynediad cynnar i gymorth pan fo angen.”

Mae’r adroddiad yn ystyried effaith gronnol ansicrwydd a ffactorau economaidd ar anghenion llesiant y cymunedau pysgota ac arfordirol. Wedi'i dominyddu gan longau bach gydag ystod arfordirol gyfyngedig, mae'r fflyd bysgota yng Nghymru yn dibynnu ar allforio ac ar lwybrau masnach di-dor gyda thros 90 y cant o'r gwerthiannau o gynnyrch ffres a byw yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r dibyniaethau hyn yn gadael y sector yn agored iawn i amrywiadau economaidd, sy'n achosi pryder cynyddol i unigolion sy'n gweithio yn y sector pysgod môr a physgod cregyn yng Nghymru.

Meddai Dr Antonis Kousoulis, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd Meddwl Cymru a Lloegr: “Daw ein hymchwil ar adeg bwysig, pan fo ansicrwydd ariannol a phwysau teuluol yn cyrraedd uchafbwynt i gymunedau pysgota yng Nghymru. 

“Mae'n ein hatgoffa'n glir bod y cynlluniau cenedlaethol weithiau'n esgeuluso'r effaith ar iechyd meddwl ar gyfer gweithwyr proffesiynol a chymunedau sy'n wynebu gwendidau.

“Ond mae hefyd yn rhoi tystiolaeth newydd ar sut y gallwn atal problemau iechyd pwysig i bysgotwyr a'u teuluoedd, a sut y gallwn weithredu cynlluniau i wella llesiant a fydd yn cael effeithiau cadarnhaol ehangach ar fusnes a chydnerthedd.” 

Yn yr adroddiad mae'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant pysgota a sefydliadau cymorth yn siarad yn agored am eu pryderon allweddol ynghylch hyfywedd pysgota fel busnes. Mae'r rhain yn cynnwys pwysau ariannol, beichiau rheoliadol a gweinyddol, rheolaeth gyfyngedig dros reoli pysgodfeydd a phenderfyniadau polisi cenedlaethol cynaliadwyedd y diwydiant, a phwysigrwydd cynnal iechyd da.

Mae’r adroddiad yn amlinellu cyfres o argymhellion sy'n cael eu llywio gan y gymuned bysgota yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys: symleiddio prosesau gweinyddol; cydgynhyrchu polisïau a gweledigaeth hyfyw ar gyfer dyfodol pysgota yng Nghymru; hyrwyddo sector pysgota Cymru; hyrwyddo cynnyrch Cymru; gorfodi rheoliadau iechyd a diogelwch yn weladwy; a sicrhau bod gan bysgotwyr well mynediad i wasanaethau iechyd a llesiant.

Wrth groesawu'r adroddiad, dywedodd Chrissy King, Swyddog Porthladd, Fishermen’s Mission: “Fel cymuned bysgota mae gennym draddodiad cryf o roi cymorth corfforol ymarferol i'n cymdogion fel rhoi help llaw iddynt, pan welwn fod angen y cymorth hwnnw arnynt.

“Mae codi ymwybyddiaeth a chymorth i iechyd meddwl a llesiant pysgotwyr yn bwysig, yn amserol ac yn berthnasol.”

Mae’r adroddiad yn dod i'r casgliad mai dull iechyd cyhoeddus wedi'i lywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael, a'i gydgynhyrchu gyda'r gymuned bysgota, yw'r unig ffordd gynaliadwy o helpu i feithrin cydnerthedd yn y sector a mynd i'r afael â materion allweddol iechyd meddwl a llesiant.