Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen eich help arnom: Cyfle i'r holl weithiwyr proffesiynol gofal sylfaenol ddweud eu dweud am reoli pwysau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd: 1 Mehefin 2021

Mae Canolfan Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu arolwg sy'n galw ar yr holl weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol rheng flaen gymryd rhan a rhannu eu barn ar gael sgyrsiau rheoli pwysau effeithiol gyda chleifion.

Defnyddir y canlyniadau i lywio argymhellion ar sut i weithredu llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan, gan gynnwys nodi hyfforddiant ac adnoddau eraill sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol, er mwyn iddynt allu darparu gofal effeithiol, symlach, sy'n canolbwyntio ar y person i gleifion sy'n profi problemau gyda'u pwysau. 

Dim ond 10-15 munud y mae'r arolwg yn ei gymryd i'w gwblhau. Mae'n syml ac yn hawdd ymateb iddo, a bydd pob ateb yn ddienw. Os hoffech gymryd rhan ymhellach, bydd cyfle hefyd i wirfoddoli er mwyn cymryd rhan mewn grwpiau trafod manwl ar ddiwedd yr arolwg.   

Mae croeso i chi rannu'r arolwg hwn ag unrhyw gydweithwyr gofal sylfaenol yn eich sefydliad, gan ddefnyddio'r ddolen uchod.  

Mae gordewdra yn fater i bawb. Mae data'n awgrymu bod 58 y cant o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew. Mae Mynegai Màs y Corff (BMI) uchel yn ffactor risg blaenllaw ar gyfer nifer o gyflyrau cronig gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, gorbwysedd, cyflyrau cyhyrsgerbydol ac mae'n cynyddu'n sylweddol y risg o anabledd a marwolaeth gynnar.  

Pwysau Iach: Cymru Iach yw strategaeth Llywodraeth Cymru i helpu i leihau nifer yr achosion o ordewdra yng nghenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, gan ddilyn dull systemau o atal gordewdra ac mae'n un o'r nodau allweddol i'w gyflawni o fewn Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol.    

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu Hitch Marketing i ddatblygu, darparu a dadansoddi'r arolwg.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr arolwg hwn, anfonwch neges e-bost at charlotted@hitchmarketing.co.uk 

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfrifoldeb statudol i gynnal a chomisiynu ymchwil sy'n darparu gwybodaeth a all ddiogelu iechyd pobl Cymru. I gael gwybodaeth am hyn, ewch i wefan Llywodraeth y DU yma:

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009

Dolen Arolwg

Holiadur pwysau a rheoli pwysau Iechyd Cyhoeddus Cymru