Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad newydd yn datgelu manylion am anghydraddoldebau eang mewn cyfraddau canser ledled Cymru

Cyhoeddwyd: 5 Mehefin 2025

Mae pobl yng Nghymru yn wynebu gwahaniaethau mewn cyfraddau canser yn dibynnu ar math eu tai, eu swydd a'u hethnigrwydd, yn ôl astudiaeth newydd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU), Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cysylltodd awduron yr adroddiad ddata cofrestrfa canser Cymru â data'r Cyfrifiad am y tro cyntaf, gan ddefnyddio technegau a gadwodd ddata unigolion yn gyfrinachol ac yn ddienw. Datgelodd dadansoddiadau sut roedd cyfraddau canser yn amrywio yn ôl ethnigrwydd, math o dai, a galwedigaeth ar draws poblogaeth Cymru. 

Canfu'r astudiaeth fod gan bobl sy'n byw mewn tai gorlawn gyfraddau canser sydd saith gwaith yn uwch na'r rhai â dwy neu ragor o ystafelloedd sbâr - hyd yn oed ar ôl cyfrif am wahaniaethau mewn oedran.  Roedd gan breswylwyr tai cymdeithasol gyfraddau canser a oedd bron tair gwaith yn uwch na phobl sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr. 

Roedd gwahaniaethau hefyd mewn cyfraddau canser rhwng grwpiau ethnig. Er bod gan y boblogaeth wyn y cyfraddau canser uchaf yn gyffredinol – yn rhannol oherwydd oedran hŷn y grŵp gwyn - roedd pobl o gefndiroedd ethnig cymysg yn fwy tebygol o gael diagnosis ar gam diweddarach, gan gyfyngu ar oroesi canser o bosibl. Roedd dynion du yn fwy tebygol o gael diagnosis o ganser y prostad ac roedd menywod Asiaidd yn fwy tebygol o gael diagnosis o ganser y fron. 

Roedd gan bobl sy'n gweithio mewn swyddi â chyflog is a swyddi â llaw - gan gynnwys gweithwyr proses, gwaith a pheiriannau - y cyfraddau uchaf o ganser. Roeddent hefyd yn fwy tebygol o gael diagnosis ar gam diweddarach na'r rhai mewn rolau proffesiynol. 

Defnyddiodd yr adroddiad ddata cysylltiedig o gofrestrfa ganser genedlaethol Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru a Chyfrifiad 2011 drwy Fanc Data SAIL Prifysgol Abertawe, sy'n cadw data dienw yn ddiogel. 

Meddai'r Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru: “Dyma'r tro cyntaf rydym wedi gallu edrych ar anghydraddoldebau annheg mewn cyfraddau canser drwy'r lefel hon o fanylion gan ddefnyddio data unigol ar draws poblogaeth gyfan Cymru. Mae'n gam mawr ymlaen o ran deall a lleihau anghydraddoldebau canser yn ein cymdeithas.  

“Mae wedi ein galluogi i gael llawer mwy o fanylion am y ffactorau demograffig-gymdeithasol sydd ar waith, drwy edrych ar fesurau anghydraddoldeb unigol neu aelwydydd, yn hytrach na dadansoddiad ar lefel ardal. Mae'n llinell sylfaen gref ar gyfer gwaith yn y dyfodol ac yn alwad glir i weithredu er mwyn canolbwyntio ar lle mae canser ac anghydraddoldebau iechyd eraill yn dechrau.  

“Mewn gormod o rannau o Gymru, nid yw'r blociau adeiladu iechyd a llesiant - fel cartrefi iach, swyddi da, digon o arian i dalu biliau, cysylltiadau â phobl yn ein cymunedau, addysg a sgiliau, ac amgylcheddau diogel a glân - yn ddigon cryf neu maent ar goll yn gyfan gwbl. Mae hyn yn arwain at iechyd gwaeth a bywydau yn cael eu torri'n fyr, gan greu neu waethygu anghydraddoldebau iechyd (gwahaniaethau mewn iechyd rhwng grwpiau o bobl a chymunedau). 

“Mae hyd at 4 o bob 10 achos o ganser yn rhai y gellir eu hatal o bosibl ymhlith poblogaeth Cymru gyfan. Mae atal canser a chael diagnosis cynharach yn flaenoriaeth i bawb yn y system." 

Adroddiad

 Anghydraddoldebau mewn Cyfraddau Canser yng Nghymru yn ôl Nodweddion Cymdeithasol-ddemograffig, 2011-2020 - Iechyd Cyhoeddus Cymru