Neidio i'r prif gynnwy

Lansio arolwg newydd: Cofnodi effaith COVID-19 ar iechyd a llesiant nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd yng Nghymru

 

Cyhoeddwyd: 24 Mehefin 2021

Yr wythnos hon, mae Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio arolwg ar-lein i drafod effaith COVID-19 ar iechyd a llesiant nyrsys a bydwragedd cofrestredig a'r rhai sy'n fyfyrwyr, a gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru, wedi'u cefnogi gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Coleg Brenhinol y Bydwragedd Cymru, Cyfarwyddwyr Nyrsio GIG Cymru, Cyngor Deoniaid Iechyd Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a phrifysgolion ledled Cymru.

Cyn COVID-19, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru yr arolwg cenedlaethol cyntaf yng Nghymru i drafod iechyd a llesiant nyrsys, bydwragedd a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Nododd adroddiad terfynol yr astudiaeth yma a gyhoeddwyd y llynedd ystyriaethau allweddol ar gyfer gweithredu.

Wrth i'r GIG yng Nghymru bellach symud i adferiad COVID-19 mae'n hanfodol ein bod yn trafod sut y mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth.  Gyda chymorth y Colegau Brenhinol bydd ein harolwg 2021 yn ein galluogi i ddeall sut y mae COVID-19 wedi effeithio ar lesiant – ac a ddylai'r camau a nodwyd gennym barhau i fod yn flaenoriaethau allweddol.

Nododd ein hadroddiad blaenorol yr angen am fwy o gymorth i aelodau iau o'r gweithlu a'r rhai yn gynharach yn eu gyrfaoedd.  Eleni, mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn ymestyn ein gwahoddiad i gyfranogi i bob myfyriwr nyrsio a bydwreigiaeth ledled Cymru, gyda chymorth Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Cyngor Deoniaid Iechyd Cymru a Phrifysgolion Cymru.

Meddai Dr Benjamin Gray, sy'n arwain yr arolwg:

“Mae llesiant ein gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth wrth wraidd adferiad COVID-19.

“Bydd ein harolwg yn rhoi cipolwg hanfodol ar effaith pandemig COVID-19 ar ein gweithwyr allweddol a'n myfyrwyr yng Nghymru.  

“Mae'n bleser gennym gydweithio â sefydliadau ar draws y GIG ac Addysg Uwch yng Nghymru i sicrhau bod y canfyddiadau o'r astudiaeth yn llywio'r gwaith o gynllunio adferiad a chamau i gefnogi iechyd a llesiant gweithwyr a myfyrwyr gofal iechyd.”

Mae'r arolwg ar-lein yn agored i'r holl staff nyrsio a bydwreigiaeth, gan gynnwys myfyrwyr, a gweithwyr cymorth gofal iechyd a gellir cael mynediad ato yma www.myonlinesurvey.co.uk/PHW21. Mae ar agor rhwng 21 Mehefin a 6 Awst.  Mae copïau ffôn a phapur ar gael i wneud cais amdanynt drwy gysylltu â helpline@quality-health.co.uk neu ffonio 0800 917 6597.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfrifoldeb statudol i gynnal a chomisiynu ymchwil sy'n darparu gwybodaeth a all ddiogelu iechyd pobl Cymru. I gael gwybodaeth am hyn, ewch i wefan Llywodraeth y DU yma: Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009