Cyhoeddwyd: 6 Ebrill 2022
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus yr Alban (PHS), Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd (Gogledd Iwerddon) ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) er mwyn ymchwilio i achosion o hepatitis acíwt mewn plant.
Nid yw'r hyn sydd wedi achosi'r rhain yn hysbys eto, ond mae'r achosion mwyaf cyffredin o feirysau hepatitis wedi'u diystyru.
Nid oes unrhyw achosion hysbys yng Nghymru sy'n destun ymchwiliad gweithredol ar hyn o bryd, ond roedd nifer bach iawn o achosion yn gynharach eleni yn cyfateb i'r cyflwyniad clinigol. Nid oes cysylltiad hysbys â theithio.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Gall hepatitis achosi clefyd melyn a llid yr afu, felly dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol o symptomau clefyd melyn – gan gynnwys arlliw melyn ar y croen sydd fwyaf amlwg yng ngwyn y llygaid.
“Rydym yn atgoffa'r cyhoedd i ymgyfarwyddo â hyn a symptomau eraill hepatitis yn sgil yr achosion hyn yn y DU.
“Atgoffir rhieni a gofalwyr y dylent gadw eu plant i ffwrdd o'r ysgol a gofyn am gyngor gan feddyg teulu neu arbenigwr priodol os bydd eu plentyn yn profi unrhyw symptomau sy'n gysylltiedig â hepatitis.”
Mae symptomau hepatitis yn cynnwys:
• wrin tywyll
• ysgarthion gwelw, lliw llwyd
• croen coslyd
• llygaid a chroen yn troi'n felyn (clefyd melyn)
• poen yn y cyhyrau a'r cymalau
• tymheredd uchel
• chwydu a theimlo'n sâl
• teimlo'n anarferol o flinedig drwy'r amser
• colli archwaeth
• poen yn y bol