Ar Ddiwrnod Hawliau Dynol, gan ddathlu'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn myfyrio ar yr amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau cydraddoldeb a hawliau dynol eithriadol a gynhelir ar draws y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion i ddod yn Sefydliad Noddfa cydnabyddedig.
Nid yn unig y mae 10 Rhagfyr 2019 yn Ddiwrnod Hawliau Dynol, mae hefyd yn 70 mlwyddiant y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. Gwnaeth y ddogfen garreg filltir hon gyhoeddi'r hawliau diymwad y mae gan bawb hawl gynhenid iddynt fel bodau dynol beth bynnag fo'u hil, lliw, crefydd, rhywedd, iaith, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.
Meddai Rebecca Fogarty, Rheolwr Ymgysylltu a Chydweithredu, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
”Mae'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn ein grymuso ni i gyd. Mae hawliau dynol yn berthnasol i bob un ohonom, bob dydd. Pryd bynnag a lle bynnag y rhoddir y gorau i werthoedd dynoliaeth, rydym i gyd yn wynebu risg uwch. Mae parch at gydraddoldeb a hawliau dynol yn gwbl hanfodol er mwyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru lwyddo yn ei flaenoriaethau strategol.”
Mae rhywfaint o waith diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gydraddoldeb a hawliau dynol, a gweithgareddau sydd ar y gweill yn cynnwys:
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio dod yn Sefydliad Noddfa. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud gan rannau amrywiol o'r sefydliad, ac mae Rebecca Fogarty a Lauren Couzens wrthi'n coladu tystiolaeth ar hyn o bryd. Mae holl staff Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gwahodd i gyflwyno rhagor o dystiolaeth tan ddydd Llun, 16 Rhagfyr 2019.
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mynd ati'n rheolaidd i gynnal prosiectau ymchwil sy'n ceisio gwella ein dealltwriaeth o grwpiau gwarchodedig a grwpiau mewn perygl, gan gynnwys gwaith yn ymwneud â digartrefedd a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) (gweler yr adroddiad). Cafodd Adroddiad Iechyd a Llesiant i Gymunedau Byddar yng Nghymru gan Brifysgol Bangor, a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ei lansio y mis hwn hefyd. Enillodd astudiaeth Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru (HEAR) wobr Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe am gyfraniad eithriadol i allgymorth ac ymgysylltu â'r cyhoedd y mis diwethaf. Mae hyn yn dilyn gwobr y prosiect ar gyfer Cyfranogiad Cleifion a'r Cyhoedd o Gynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2019.
- Mae ymgynghoriad ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i gwblhau a bydd y cynllun pedair blynedd newydd yn weithredol erbyn 01 Ebrill 2020.
- Cynhelir Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant eleni o 06-10 Ionawr 2020 gyda digwyddiadau amser cinio bob dydd. Manylion ychwanegol cyn bo hir.
- Mae sawl modiwl e-ddysgu ar gael i godi ymwybyddiaeth o grwpiau gwarchodedig penodol, fel rhan o'r gyfres Cydraddoldeb a Hawliau Dynol “Fy Nhrin yn Deg” ar system Cofnod Staff Electronig GIG Cymru. Bydd modiwl newydd ar bobl sy'n ceisio noddfa ar gael cyn bo hir, yn ogystal â chyfres ar Ddinasyddiaeth Fyd-eang