Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwella gwyliadwriaeth feirysau anadlol y gaeaf drwy brofi samplau Coronafeirws

Cyhoeddwyd: 28 Ionawr 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno gwelliannau i'w wyliadwriaeth feirysau anadlol y gaeaf. 

O fis Ionawr 2022, gall samplau PCR a brofir am Coronafeirws yn labordai GIG Cymru hefyd gael eu profi ar gyfer ffliw neu feirws syncytiol anadlol (RSV).

Bydd yr unigolion hynny sy’n profi'n bositif am naill ai ffliw neu RSV yn cael neges destun, ar wahân i'w neges destun ynghylch canlyniad Coronafeirws, yn rhoi gwybod iddynt am y canlyniad.

Gellir cael cyngor ar y camau i'w cymryd yn dilyn canlyniad ffliw neu RSV positif drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn www.phw.nhs.wales/FLUtestresult neu www.phw.nhs.wales/RSVtestresult

Meddai Dr Robin Howe, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Microbioleg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Gall y platfformau a ddefnyddir i brofi samplau am Coronafeirws hefyd brofi am nifer o feirysau, gan gynnwys ffliw ac RSV.  Mae hyn yn ein galluogi i fonitro lledaeniad y feirysau hyn drwy'r gaeaf yng Nghymru.

“Bydd rhoi cadarnhad i bobl bod ganddynt ffliw neu RSV yn hytrach na Covid-19 yn golygu eu bod yn gallu cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt yn haws, yn ogystal ag amddiffyn pobl eraill drwy gadw draw oddi wrthynt.”