30 Ebrill 2025
Mae rhieni a gwarcheidwaid yng Nghymru yn cael eu hannog i amddiffyn pobl ifanc rhag canserau sy’n gysylltiedig â HPV drwy sicrhau eu bod yn manteisio ar y cynnig i gael y brechlyn HPV yn yr ysgol.
Mae HPV (feirws papiloma dynol) yn feirws cyffredin yn y DU. Amcangyfrifir y bydd 8 o bob 10 o bobl yn cael eu heintio â HPV ar ryw adeg yn eu bywydau.
Dywedodd Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Nid yw’r rhan fwyaf o heintiau HPV yn achosi symptomau o gwbl. Yn achos y rhan fwyaf o bobl, bydd y feirws yn gadael y corff yn naturiol heb achosi niwed. Fodd bynnag, mewn rhai achosion gall y feirws arwain at newidiadau i gelloedd a all ddatblygu'n ganser, neu achosi defaid gwenerol.
“Mae mathau risg uchel o HPV yn gysylltiedig â chanser ceg y groth, canser y pen a’r gwddf, a chanserau eraill sy’n effeithio ar yr organau cenhedlu a’r anws.
“Mae’r brechlyn HPV yn frechlyn dos sengl diogel a hynod effeithiol sy’n cael ei gynnig i bob plentyn rhwng 12 a 13 oed, neu flwyddyn ysgol 8. Mae’n rhoi amddiffyniad hirdymor yn erbyn HPV a’r canserau y mae’n gallu eu hachosi.”
Dim ond 25 oed oedd Rhian Griffiths pan fu farw o ganser ceg y groth. Ar y pryd nid oedd brechiad yn erbyn HPV ar gael fel rhan o'r amserlen imiwneiddio arferol yng Nghymru. Mae ei rhieni bellach yn annog teuluoedd i amddiffyn eu plant drwy sicrhau eu bod yn manteisio ar y brechlyn HPV pan gaiff ei gynnig. Dywedodd ei thad Wayne: “Doedd Rhian ddim eisiau cael ei anghofio ac ni fydd hi byth yn angof. Os yw clywed ei stori yn annog un unigolyn i gael ei frechu neu fynd i apwyntiad sgrinio, gallai achub bywyd ac arbed teulu arall rhag y boen rydyn ni wedi bod drwyddo.
“Peidiwch â bod yn ansicr – beth sy'n eich rhwystro? Nid oes yna anfanteision, a gallai achub eich bywyd. Mae unrhyw beth a all leihau eich risg o ganser yn werth chweil.” Mae’r teulu wedi codi dros £1 miliwn i gefnogi gwasanaethau canser ar draws De Cymru er cof am Rhian.
Mae'r brechlyn HPV yn cael ei gynnig i bob disgybl blwyddyn 8 mewn ysgolion ledled Cymru, yn ogystal ag i'r rhai a allai fod wedi methu eu brechiad o’r blaen.
Bydd pobl ifanc nad ydynt yn mynd i’r ysgol neu sydd wedi methu eu brechiad HPV yn yr ysgol yn cael cyfleoedd i gael y brechlyn naill ai yn yr ysgol, mewn canolfannau brechu cymunedol neu drwy eu meddyg teulu.
Os ydych yn poeni bod eich plentyn wedi methu un o’i frechiadau, gallwch hefyd gysylltu â’i nyrs ysgol, y tîm imiwneiddio neu eich meddyg teulu i drafod sut i gael y brechlynnau a fethwyd a sicrhau bod eich plentyn yn cael ei amddiffyn cyn gynted â phosibl.
Mae rhai canserau sy’n gysylltiedig â HPV yn fwy cyffredin ymhlith dynion na menywod, ond er gwaethaf hyn, mae bechgyn yn llai tebygol o gael eu brechlyn HPV na merched. Mae eleni’n gyfle newydd i rieni a gwarcheidwaid bechgyn a merched sicrhau bod eu plant yn cael yr amddiffyniad gorau posibl rhag canserau sy’n gysylltiedig â HPV yn y dyfodol, wrth i ymdrechion barhau i gyrraedd targed brechu 90 y cant Llywodraeth Cymru.
Mae pobl ifanc yn parhau i fod yn gymwys i gael y brechlyn hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed. Mae’r rhaglen dal i fyny ar gael i fechgyn a anwyd ar ôl 1 Medi 2006.
Dywedodd Graham Brown, Ymgynghorydd Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd: * Mae'r brechlyn HPV yn frechlyn hynod effeithiol sy'n rhoi amddiffyniad hirdymor yn erbyn HPV a'r canserau y mae’n gallu eu hachosi. Hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn HPV, mae'n dal yn bwysig eich bod yn mynd i apwyntiadau sgrinio serfigol.
“Mae’r brechlyn yn amddiffyn rhag y mathau mwyaf cyffredin o HPV sy’n achosi canser ceg y groth, ond nid yw’n amddiffyn rhag pob math. Mae cael y brechlyn HPV a mynd i’ch apwyntiadau sgrinio, pan gewch eich gwahodd, yn cynnig yr amddiffyniad gorau yn erbyn canserau sy’n gysylltiedig â HPV yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Chris Johnson: “Mae'n bwysig bod rhieni a gwarcheidwaid yn deall manteision y brechlyn HPV a sut y gall helpu i amddiffyn eu plant yn ddiweddarach mewn bywyd. Rydym yn eu hannog i wneud yn siŵr bod eu plentyn yn cael y brechlyn pan gaiff ei gynnig, er mwyn helpu i’w amddiffyn rhag canser sy’n gysylltiedig â HPV yn y dyfodol.”
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: HPV- Iechyd Cyhoeddus Cymru.