Cyhoeddwyd: 8 Mai 2024
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn canolbwyntio ei ymchwil ar chwe maes blaenoriaeth, i gyd-fynd â'r strategaeth hirdymor a'r strategaeth Ymchwil a Gwerthuso a lansiodd y llynedd.
Mae Cyfarwyddiaeth Ymchwil a Gwerthuso'r sefydliad wedi cyhoeddi'r Meysydd Diddordeb Ymchwil a Gwerthuso i amlinellu'r meysydd allweddol y mae'n dymuno gweithio ynddynt a galluogi cydweithwyr, cyllidwyr a'r gymuned ymchwil i dargedu eu hymdrechion yn fwyaf effeithiol.
Mae'r ddogfen yn tynnu sylw at y blaenoriaethau ymchwil, ac yn eu rhannu yn gwestiynau ymchwil pellach a awgrymir, gan ddarparu dogfen sy'n rhoi mwy o eglurder i ymchwilwyr a chyllidwyr ynghylch yr hyn y mae'r sefydliad yn awyddus i ganolbwyntio arno.
Mae'r meysydd o ddiddordeb yn cyd-fynd â chwe maes blaenoriaeth strategaeth hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd, Hybu llesiant meddyliol a chymdeithasol, Hybu ymddygiad iach, Cefnogi'r gwaith o ddatblygu system iechyd a gofal gynaliadwy, Darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus rhagorol a Mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd cyhoeddus.
Meddai Elen de Lacy, Arweinydd Partneriaeth Strategol Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o ecosystem ymchwil ehangach, ac rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o ymchwilwyr a chydweithwyr ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Rydym am barhau i gryfhau ac ehangu'r perthnasoedd hyn ar draws seilwaith ymchwil helaeth. Rydym hefyd am weithio gyda chyllidwyr i ddylanwadu ar yr agenda iechyd y boblogaeth a'i chefnogi a'i chryfhau ar gyfer pobl yng Nghymru.
“Mae'r ddogfen hon yn rhoi ffocws clir i'r bobl a'r sefydliadau hynny y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu â nhw, i gysoni eu cwestiynau ymchwil a'u rhaglenni eu hunain â'n meysydd blaenoriaeth. Drwy gysoni eu hymchwil â meysydd lle mae angen gwell tystiolaeth, gall ymchwilwyr greu mewnwelediadau a fydd yn llywio penderfyniadau i wella bywydau yng Nghymru.”
“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y dirwedd ymchwil er mwyn datblygu gwaith o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac i gyflawni gweledigaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef ‘Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru Iachach’.”