Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyngor i bobl sy'n cael eu heffeithio gan lifogydd ar ôl Storm Claudia

Cyhoeddwyd: 17 Tachwedd 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau yn ardal Trefynwy yn ystod y llifogydd dinistriol a achoswyd gan Storm Claudia.  Mae risg sylweddol i iechyd y cyhoedd yn ystod y broses lanhau ar ôl y llifogydd, felly mae'n bwysig i bobl gymryd rhagofalon er mwyn osgoi salwch pellach.

Meddai’r Athro Sarah Jones, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan lifogydd, rydym yn rhoi’r cyngor canlynol i chi:

  • Gofalwch am eich gilydd, gwiriwch ar ffrindiau a chymdogion.
  • Osgowch ddod i gysylltiad â dŵr llifogydd gymaint â phosibl. Peidiwch â gadael i blant nac anifeiliaid anwes chwarae mewn dŵr llifogydd.
  • Os oes rhaid i chi fynd i mewn i'r dŵr, gwisgwch fenig gwrth-ddŵr ac esgidiau rwber a chofiwch fod yn wyliadwrus ar gyfer peryglon cudd. 
  • Peidiwch â throi offer trydanol ymlaen sydd efallai wedi bod mewn cysylltiad â dŵr llifogydd nes bod trydanwr cymwys wedi'u gwirio, gan fod risg o sioc drydanol.
  • Peidiwch â defnyddio generadur petrol na disel dan do gan fod risg ddifrifol o wenwyno carbon monocsid, a all ladd.
  • Cadwch unrhyw friwiau neu glwyfau agored yn lân ac yn sych. Gall gwisgo plastrau a rhwymynnau gwrth-ddŵr fod o help.
  • Golchwch eich dwylo, yn enwedig ar ôl mynd i'r tŷ bach, cyn bwyta neu baratoi bwyd - dyma'r ffordd bwysicaf o gael gwared ar fygiau niweidiol. 
  • Os nad oes gennych ddŵr glân, defnyddiwch gel diheintio dwylo neu weips gwlyb. 
  • Mae'n normal teimlo'n bryderus neu'n ofidus, ond os bydd hyn yn parhau ceisiwch gymorth iechyd meddwl.
  • Os byddwch chi'n mynd yn sâl ar ôl llyncu dŵr llifogydd neu fwd ar ddamwain, yn enwedig os byddwch chi'n datblygu dolur rhydd, twymyn neu boenau stumog o fewn 10 diwrnod o ddod i gysylltiad â dŵr llifogydd neu garthffosiaeth - cysylltwch â GIG 111 Cymru neu'ch meddyg
  • Mynnwch wasanaeth cynnal a chadw gan beiriannydd Gas Safe ar gyfer eich offer gwresogi a choginio, hyd yn oed os ydyn nhw i’w gweld yn gweithio'n iawn. Mae risg o wenwyno carbon monocsid os nad ydyn nhw'n gweithio'n iawn. 

I gael rhagor o wybodaeth am ymdrin â llifogydd gan gynnwys cyngor ar sut i lanhau'n ddiogel: Llifogydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru.