Cyhoeddwyd: 24 Ionawr 2024
Byddai cyflwyno Trwyddedu Graddedig ar gyfer Gyrwyr (GDL) yn achub bywydau yn y DU, yn ôl ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgynghoriad.
Dylai newidiadau eraill i flaenoriaethu cerdded a beicio, fel cynyddu amseroedd croesi a gosod lonydd ar wahân yn lle lonydd beicio “paent yn unig” gael eu hystyried hefyd, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth diogelwch ffyrdd newydd.
Yn ei ymateb i ymgynghoriad 12 wythnos Llywodraeth Cymru Diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru - Strategaeth diogelwch ffyrdd newydd, galwodd Iechyd Cyhoeddus Cymru am strategaeth diogelwch ffyrdd sy'n canolbwyntio ar iechyd cyhoeddus, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran y niwed sy'n deillio o'r amgylchedd traffig ffyrdd, ac yn blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae system GDL wedi'i chynllunio i helpu gyrwyr newydd cerbydau modur i ennill profiad a sgiliau yn raddol dros amser mewn amgylcheddau risg isel. Gellid ystyried amrywiaeth eang o fesurau mewn GDL, ond gall yr opsiynau gynnwys cyfnod pan na chaniateir i yrwyr newydd gymhwyso o dan 25 oed roi lifftiau i bobl ifanc eraill ac ni chaniateir iddynt yrru'n hwyr yn y nos. Mae datganiad safbwynt Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer GDL hefyd yn argymell cyfyngiad gyrru gyda'r nos a chyfyngiad yfed a gyrru o 20mg fesul 100ml o waed.
Gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd argymell y dylai amseroedd aros croesi gael eu torri ac ymestyn yr amser a ganiateir ar gyfer croesi. Roedd y cynigion polisi penodol yn cynnwys sicrhau bod seilwaith beicio wedi'i wahanu'n glir oddi wrth gerbydau modur eraill a bod “paent yn unig” yn annerbyniol. Gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd amlinellu ei gred y dylid cynnal ymgyrch farchnata gymdeithasol er mwyn gwella'r ddealltwriaeth o ran pwy sy'n talu am y ffyrdd (pawb drwy drethu, nid dim ond gyrwyr) a phwy sydd â blaenoriaeth yn y gofod ffordd (y defnyddwyr ffyrdd mwyaf agored i niwed, nid gyrwyr).
Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Yn hanesyddol, mae ein rhwydwaith ffyrdd wedi'i adeiladu gyda blaenoriaethu defnyddwyr cerbydau modur preifat mewn cof, ond mae'n dod yn fwyfwy amlwg nad yw hwn yn ddull sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae angen newid dulliau teithio i annog rhagor o bobl i ddefnyddio opsiynau trafnidiaeth fel cerdded, beicio, neu drafnidiaeth gyhoeddus, fel dewis arall yn lle'r car. Dim ond wedyn y gall Cymru obeithio datblygu system ffyrdd sy'n cefnogi ymdrechion datgarboneiddio a fydd yn lleihau llygredd aer ac yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, yn ogystal ag anghydraddoldebau o ran mynediad.
“Mae strategaeth diogelwch ffyrdd yn strategaeth iechyd cyhoeddus, a dylid ystyried holl elfennau'r strategaeth newydd yn benodol o ran sut y gall fod disgwyl iddynt amddiffyn, gwella neu niweidio iechyd. I'r perwyl hwn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell bod arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn cymryd rhan wrth ddatblygu'r strategaeth diogelwch ffyrdd o'r cychwyn cyntaf.”