10 Ebrill 2025
Gyda’r Pasg yn prysur agosáu a llawer o deuluoedd yn cynllunio ymweliadau â ffermydd a sŵau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa ymwelwyr o’r peryglon iechyd posibl sy’n gysylltiedig â chyswllt ag anifeiliaid a sut i gadw’n ddiogel.
Mae’r tymor wyna yn amser poblogaidd i deuluoedd, ac yn enwedig plant ifanc, i gael cyswllt agos ag anifeiliaid. Fodd bynnag, gall cyswllt agos ag ŵyn ac anifeiliaid fferm eraill arwain at risg o haint, sy’n cynnwys salwch fel cryptosporidiosis. Mae’n gallu achosi dolur rhydd, chwydu, twymyn, a chrampiau stumog.
Lleihau'r risg o haint
Er mwyn helpu i gadw plant a theuluoedd yn ddiogel wrth fwynhau ymweliadau â ffermydd y Pasg hwn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori ymwelwyr i ddilyn y mesurau hylendid syml a ganlyn:
· Golchi dwylo'n drylwyr â dŵr tap cynnes a sebon hylif ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid, ffensys, neu arwynebau lle gallai anifeiliaid wedi bod. Nid yw geliau llaw neu weips cystal â dŵr a sebon.
· Osgoi cyswllt agos ag ŵyn – sy’n cynnwys gafael ynddynt, eu cofleidio neu eu cusanu – gan fod hynny’n cynyddu’r risg o salwch.
· Goruchwylio plant yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo'n ofalus ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid a chyn bwyta neu yfed.
· Peidio â bwyta nac yfed yn agos at anifeiliaid – defnyddio mannau picnic neu gaffis dynodedig ar gyfer prydau a byrbrydau.
· Gwisgo dillad ac esgidiau addas – osgoi esgidiau agored a glanhau dillad neu esgidiau budr yn ddi-oed.
Cyngor i drefnwyr digwyddiadau
Mae llawer o ffermydd masnachol yn cynnig mynediad i’r cyhoedd yn ystod y tymor wyna. Dylai trefnwyr y digwyddiadau hyn gymryd camau i leihau risgiau iechyd i ymwelwyr:
· Gwella ymwybyddiaeth ymhlith staff ac ymwelwyr a sicrhau eu bod yn cadw at ganllawiau hylendid.
· Darparu cyfleusterau golchi dwylo hygyrch gyda dŵr tap poeth ac oer, sebon hylif, a thywelion papur.
· Ystyried cau ŵyn mewn corlan a gadael i ymwelwyr eu bwydo o ochr arall y gorlan.
· Sicrhau fod ŵyn sy’n profi ysgothi (dolur rhydd) yn cael eu rhoi mewn cwarantîn a bod ardaloedd sy’n cynnig cyswllt ag anifeiliaid yn cael eu diheintio’n rheolaidd.
· Defnyddio systemau archebu ar-lein a chyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo cyngor iechyd y cyhoedd ac argymhellion hylendid.
Beth i'w wneud os ydych chi'n teimlo'n sâl
Os ydych yn profi symptomau fel dolur rhydd neu chwydu cyn pen pythefnos o ymweld â fferm, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu neu ffonio GIG 111. Dylai
grwpiau sy’n agored i niwed, yn cynnwys plant ifanc, menywod beichiog, a'r henoed, gymryd rhagofalon ychwanegol, oherwydd gall heintiau fod yn fwy difrifol yn yr unigolion hyn. Ni ddylai'r rhai sydd wedi bod yn sâl ddychwelyd i'r gwaith, yr ysgol neu'r feithrinfa nes eu bod wedi bod yn rhydd o symptomau am o leiaf 48 awr.
Dywedodd Andrew Nelson, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r tymor ŵyna yn gyfle gwych i deuluoedd fwynhau cefn gwlad a dysgu mwy am ffermio, ond mae’n bwysig cofio bod anifeiliaid fferm yn gallu cario germau sy’n achosi salwch. Trwy ddilyn mesurau hylendid syml, fel golchi dwylo’n drylwyr ac osgoi cyswllt agos ag ŵyn, gall ymwelwyr leihau’r risg o haint a mwynhau diwrnod allan diogel a hwyliog y Pasg hwn.”