Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl gymwys yng Nghymru i gael eu brechiadau rhag y ffliw a'u pigiadau atgyfnerthu COVID-19

Cyhoeddwyd: 28 Medi 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pob person cymwys yng Nghymru i gael eu brechlynnau ffliw a phigiadau atgyfnerthu COVID-19 am ddim gan y GIG pan fydd yn dechrau ar ei raglen frechu genedlaethol fwyaf erioed dros y gaeaf. 

Wrth i'r pandemig byd-eang barhau, mae effaith COVID-19 ar y genedl wedi bod yn sylweddol, ond gall y ffliw fod yn ddifrifol hefyd. Mae'r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19 neu'r ffliw yn cael ei lleihau'n fawr drwy frechu, ac mae'r risgiau o ledaenu'r feirysau hyn yn lleihau hefyd. 

Mae brechu yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n hŷn, yn feichiog, neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i niwed o ran cymhlethdodau o ganlyniad i'r heintiau. Mae hefyd yn bwysig iawn bod gweithwyr gofal iechyd rheng flaen a'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu'n darparu gofal yng nghartrefi pobl eu hunain yn cael eu brechlynnau er mwyn helpu i leihau lledaeniad.

Fel yr esbonia Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Dros Dro Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'n hysbys mai cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw. Yn yr un modd, mae'r brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn ymestyn yr amddiffyniad rhag haint mewn unigolion yn y grwpiau cymwys hynny a gwblhaodd eu cwrs sylfaenol o frechiadau COVID-19 yn gynharach eleni.

“Mae'r broses yn syml ac yn effeithiol. Ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau cymwys mae'r brechlynnau ffliw ar gael naill ai gan y practis cyffredinol neu'r fferyllfa gymunedol. Mae trefniadau ar wahân yn eu lle ar gyfer babanod, plant oedran ysgol a staff y GIG a gofal cymdeithasol. Bydd y rhan fwyaf o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 yn cael eu cynnig yn y canolfannau brechu torfol presennol, gyda gwahoddiadau'n cael eu dosbarthu gan fyrddau iechyd lleol.”

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechlynnau ffliw a COVID-19 am ddim gan y GIG wedi'u nodi mewn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Mae'r grwpiau ar gyfer y ddau frechlyn yn debyg ond nid ydynt yn cyfateb yn union. Mae argymhellion llawn y JCVI ar gael ar-lein ar gyfer y ffliw a'r rhaglen pigiad atgyfnerthu COVID-19

Er mwyn annog pobl i fanteisio ar y brechlynnau hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch yn seiliedig ar y thema ‘helpwch i gadw eich bywyd ar agor’ o ganlyniad i gael y brechlynnau pan gânt eu cynnig. Mae'n cynnwys hysbyseb deledu a radio newydd yn ogystal â chynnwys cyfryngau cymdeithasol a digidol ac fe'i cynhelir o 28 Medi, gyda'r hysbyseb deledu yn cael ei darlledu gyntaf o 4 Hydref.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i weithio'n galed i'n diogelu ni a'n hanwyliaid rhag heriau'r pandemig. Rydym yn pryderu am storm berffaith o'r ffliw a COVID-19 y gaeaf hwn, ac rydym yn gwneud popeth i baratoi. 

“Eleni, rydym yn ymestyn ein rhaglen brechu rhag y ffliw i gynnwys pawb dros 50 oed a rhwng 7 ac 11 oed yn y rhaglen ysgolion. Mae ein rhaglen pigiad atgyfnerthu Covid 19 eisoes wedi dechrau cael ei chyflwyno ac rwy'n annog yn gryf y rhai sy'n gymwys i gael eu brechlynnau cyn gynted â phosibl er mwyn helpu i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd a'u cymuned.”

Mae feirysau ffliw a COVID-19 yn lledaenu'n hawdd, a gallant fod yn ddifrifol iawn i bobl hŷn, plant ifanc, menywod beichiog a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd. 

“Diolch byth, roedd tymor y ffliw yn ysgafn y llynedd,” meddai Dr Johnson, “ond yn y rhan fwyaf o flynyddoedd mae'n arwain at frigiad o achosion mewn cartrefi gofal ac ysbytai, ac yn gyffredinol rydym yn gweld cannoedd o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty neu unedau gofal dwys gyda'r ffliw. Rydym hefyd yn gwybod o'n profiadau gyda COVID-19 mor ddinistriol y gall ei effeithiau fod.

“Byddwn felly'n rhoi sicrwydd i'r rhai sy'n gymwys ond sy'n colli eu hapwyntiadau am unrhyw reswm i beidio â chynhyrfu. Gellir aildrefnu apwyntiadau drwy gysylltu â'r sefydliad a roddodd eich gwahoddiad gwreiddiol a gwneud cais am ddyddiad newydd,” meddai i gloi.
I helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledu, cofiwch ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa.’

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae brechlynnau yn eich amddiffyn, ac am symptomau'r ffliw a COVID-19, chwiliwch am frechlynnau Iechyd Cyhoeddus Cymru neu ewch i icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau.