Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog cefnogwyr pêl-droed sy'n mynd i Qatar i gadw'n ddiogel ac yn iach 

Cyhoeddwyd: 26 Hydref 2022

Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru sy'n mynd i Qatar ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd fis nesaf yn cael eu hannog i gadw'n ddiogel ac yn iach pan fyddant yn teithio i'r Dwyrain Canol. 

Mae arbenigwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori y dylai unrhyw un sy'n bwriadu cefnogi dynion Rob Page yn Qatar wirio a ydynt yn gyfredol o ran eu brechiadau cyn iddynt deithio. 

Gyda gêm gyntaf Cymru yn erbyn UDA wedi'i threfnu ar gyfer 21 Tachwedd, mae amser yn prinhau i gefnogwyr amddiffyn eu hunain yn erbyn amrywiaeth o glefydau a allai ddifetha eu taith, yn ogystal ag achosi problemau iechyd iddynt yn y dyfodol. 

Meddai Caryn Cox, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym wir eisiau i bawb sy'n teithio i rowndiau terfynol Cwpan y Byd gael amser gwych yn Qatar. Mae hynny'n cynnwys cadw'n ddiogel yn erbyn clefydau. 

“Y ffordd orau o gadw eich hun yn ddiogel yw sicrhau eich bod yn gyfredol o ran brechiadau, gan fod y rhain yn eich atal rhag mynd yn ddifrifol wael. 

“Mae hyn yn cynnwys unrhyw imiwneiddio yn ystod plentyndod arferol y gallech fod wedi'i golli, fel brechu yn erbyn y frech goch, clwy'r pennau, a rwbela (MMR), brechiad llid yr ymennydd, neu'r brechiad diphtheria-tetanws-polio. 

“Rydym yn argymell bod cefnogwyr pêl-droed yn gwirio'r dudalen we bwrpasol ar gyfer y bencampwriaeth sy'n rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i amddiffyn eich iechyd – gan gynnwys manylion am y feddyginiaeth y gallwch fynd gyda chi, y gweithgareddau a'r bwyd y dylech eu hosgoi, a chyngor ar ymdopi â'r hinsawdd yn yr ardal.  

“Yn ogystal, os byddwch yn sâl ar ôl dychwelyd o'r Dwyrain Canol, mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth eich meddyg teulu eich bod wedi ymweld â'r ardal hon.   

“Os nad ydych yn gwybod a ydych wedi methu unrhyw rai o'ch brechiadau rheolaidd, gallwch wirio gyda'ch meddygfa. 

“Hefyd, mae’n bwysig gwirio'r gofyniad mynediad i Qatar er mwyn sicrhau eich bod yn gyfredol o ran brechiadau a phigiadau atgyfnerthu COVID-19, yn ogystal ag unrhyw brofion a allai fod yn ofynnol naill ai cyn teithio neu ar ôl cyrraedd.   

“Yn olaf, mae'n hanfodol eich bod yn sicrhau bod gennych yswiriant teithio priodol. 

Gall unrhyw un sy'n mynd i Qatar – neu sy'n bwriadu aros mewn gwledydd cyfagos – ddarganfod y gofynion brechu ac argymhellion pwysig eraill i gadw'n ddiogel ac yn iach ar wefan bwrpasol Travel Health Pro