Mae CEM Abertawe wedi dileu hepatitis C ymhlith poblogaeth ei garchar—y tro cyntaf i garchar remánd yn y DU gyflawni hyn.
Ar 05 Medi 2019 roedd pob dyn yn y carchar wedi'i brofi am hepatitis C a chafwyd eu bod naill ai'n negatif neu eisoes yn cael triniaeth. Mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol i garchar gyda throsiant uchel iawn o unigolion.
Mae system profi a thrin gyflym sydd wedi'i threialu yn CEM Abertawe wedi galluogi dynion yn y carchar i ddechrau triniaeth yn llwyddiannus ar gyfer eu haint hepatitis C o fewn oddeutu diwrnod ar ôl cyrraedd y system garchardai. Mae’r system newydd hon wedi bod yn llwyddiant ysgubol, oherwydd o dan y system flaenorol roedd yn rhaid i droseddwyr aros sawl wythnos am ganlyniadau profion a threfnu triniaeth. O ganlyniad i hyn, roeddent yn aml yn cael eu rhyddhau cyn i'r driniaeth ddechrau a chafodd hyn effaith negyddol ar eu hiechyd a'u llesiant.
Mae cyflwyno'r cynllun peilot hwn yn ei hanfod wedi dileu hepatitis c o'r carchar hwn, sy'n golygu mai hwn yw'r carchar remánd cyntaf yn y DU i fod yn rhydd o hepatitis C.
Mae'r cyflawniad aruthrol hwn o ganlyniad i gydweithio rhwng CEM Abertawe, y timau arbenigol feirws a gludir yn y gwaed a fferyllwyr ym mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ynghyd â staff o Ganolfan Feiroleg Arbenigol Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru Caerdydd).
Caiff y dadansoddiad llawn o'r cynllun peilot ei gwblhau yn awr a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w ystyried yn ehangach ym mrwydr Cymru i ddileu Hepatitis C.
Meddai Louise Davies, Gwyddonydd Biomeddygol Arbenigol ac Arweinydd Profion Pwynt Gofal Feiroleg Cenedlaethol:
“Mae wedi bod yn wych gweld y manteision y mae profion diagnostig cyflym wedi'u sicrhau i reoli cleifion a sut y mae'r prosiect hwn wedi cyfrannu at wella ansawdd gwasanaethau iechyd yn yr ystad carchardai.
“Braint oedd gweithio ar brosiect mor werthfawr a phleser fu gweithio gyda'r staff nyrsio brwdfrydig yn CEM, Abertawe, y tîm cymunedol arbenigol a fferyllwyr sydd wedi bod yn allweddol yn y gwaith o gyflawni'r targed hwn.
“Byddai’n dda gweld y llwybr newydd a gwell hwn yn cael ei weithredu fel gwasanaeth arferol yn CEM Abertawe a chyflwyno llwybrau tebyg mewn ystadau carchar a lleoliadau eraill ledled Cymru.”
Mae hepatitis C yn effeithio ar tua 12,000 o bobl yng Nghymru. Os na chaiff ei drin, gellir ei ledaenu o un unigolyn i'r llall a gall achosi camau terfynol clefyd yr afu a chanser yr afu mewn unigolion heintiedig.