Neidio i'r prif gynnwy

Hanukkah 2020 a'r coronafeirws

Cyhoeddwyd: 10 Rhagfyr 2020

Mae Hanukkah 2020 yn mynd i fod yn wahanol eleni.  Fel yr ydym wedi'i wneud gyda llawer o ddigwyddiadau drwy'r flwyddyn, diolch eto i'r rheini ohonoch sy'n amddiffyn eich hun ac eraill rhag y risg o ddal neu ledaenu Coronafeirws. 

Mae pobl ar draws Cymru yn parhau i addasu i'r sefyllfa sy'n newid a gall dathliadau tymhorol pwysig fel Hanukkah helpu i hybu morâl a'n hannog i gysylltu'n ddiogel â ffrindiau, teulu ac anwyliaid. 

Meddai Dr Eleri Davies Cyfarwyddwr Digwyddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Nid yw Coronafeirws wedi diflannu ac unwaith eto rydym yn diolch i chi am y cydnerthedd rydych wedi'i ddangos wrth wneud eich rhan i leihau eich siawns o ddal neu ledaenu'r feirws. 

Mae Hanukkah yn gyfnod o roi ac amser i ddod ynghyd gyda theulu a ffrindiau. Yn union fel yr ydym wedi'i wneud drwy gydol y flwyddyn, bydd llawer ohonom yn dod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol o fynd i ysbryd yr achlysur pwysig hwn. 

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i amddiffyn ein hunain a'r bobl rydym yn poeni amdanynt, felly gofynnwn eto eich bod yn cadw hyn mewn cof wrth gynllunio eich gweithgareddau.”

“Dymunwn Hanukkah hapus a diogel iawn i chi i gyd”

Wrth gynllunio eich dathliadau Hanukkah cofiwch:
-    ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol a'r canllawiau presennol
-    dewch o hyd i ffyrdd newydd o fwynhau rhai o'ch hoff draddodiadau Hanukkah yn ddiogel gartref
-    dylech osgoi teithio a chynulliadau diangen
-    parhewch i ynysu'n gorfforol oddi wrth eraill os oes gennych symptomau neu os ydych wedi profi'n bositif am y coronafeirws. 

 Mae gan Chabad.org amrywiaeth o wybodaeth am Hanukkah yn ogystal â rhai awgrymiadau gwych ar gyfer ffyrdd o ddathlu'n ddiogel.