Neidio i'r prif gynnwy

Gwella cysylltiadau cymdeithasol i helpu cymunedau i ffynnu mewn cyfnod ansicr

Bydd adroddiad newydd yn helpu gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau eraill yng Nghymru i weithio i ddatblygu unigolion a chymunedau cydnerth sydd mewn sefyllfa well i ymateb i amgylchiadau heriol fel argyfyngau economaidd, straen, trawma, a heriau bywyd bob dydd.

Mae’r adroddiad yn amlygu mai ymdeimlad pobl o lesiant, pa mor dda maent yn ymdopi'n emosiynol, a sut y maent yn ymgysylltu'n gymdeithasol yw'r ffactorau allweddol ar gyfer cydnerthedd, sydd yn eu tro'n cyfrannu at gydnerthedd cymunedol ehangach.  Gall cymunedau cydnerth ddefnyddio'r asedau mewn pobl, lleoedd a ffactorau economaidd ehangach. 

Mae’r adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu nad yw cydnerthedd yn sefydlog ond mae'n newid ar adegau gwahanol yn ein bywydau, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o gamau a all helpu i gryfhau cydnerthedd unigol a chymunedol ar unrhyw oedran.

Un o’r meysydd pwysicaf a amlygwyd yw annog perthnasoedd a chysylltiadau da ag eraill, fel ffynhonell gref o gydnerthedd o oedran ifanc i henaint.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at raglenni gan gynnwys y rhai sy'n cynorthwyo rhianta i feithrin ymlyniad iach mewn perthynas rhwng rhiant a phlentyn.  Mae'r rhain yn galluogi'r blociau adeiladu sydd eu hangen ar gyfer iechyd a chydnerthedd da yn ystod plentyndod, a thrwy gydol bywyd cyfan unigolyn.

Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn byw mewn byd sy'n newid yn gyflym a byd-eang lle rydym yn wynebu heriau parhaus i'n llesiant a'n sefydlogrwydd fel unigolion ac fel cymunedau cyfan.  Ond mae pethau y gallwn eu gwneud i wella cydnerthedd pobl, beth bynnag fo'u hoedran.

“Dyna pam mae'n bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau eraill ledled Cymru yn gweithredu i sicrhau ein bod i gyd yn gallu defnyddio cryfderau ac asedau i wella ein bywydau bob dydd ac i ymdopi pan fydd newid yn digwydd.

“Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi canllawiau hollbwysig i lunwyr polisïau i'w helpu i gynorthwyo pobl i fod yn fwy cydnerth, drwy deimlo'n gymdeithasol gysylltiedig, drwy fwynhau llesiant da a thrwy gryfhau cydnerthedd meddyliol.”

Mae Cymru gydnerth yn un o nodau allweddol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac nid yw Cymru ar ei phen ei hun – mae pwysigrwydd cydnerthedd yn cael ei gydnabod gan ddatblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, cynllun gweithredu Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd.

Roedd gweithgareddau eraill a amlygwyd gan yr adroddiad sy'n gwella cydnerthedd cymunedol ac unigol yn cynnwys:
•    Sefydlu amgylchedd teulu iach, perthnasoedd cadarnhaol cynnar rhwng rhiant a phlentyn (neu gydag oedolyn y gellir ymddiried ynddo), gan osod sylfeini cydnerthedd yn ystod plentyndod hyd at fywyd diweddarach
•    Hyrwyddo iechyd da a llesiant meddyliol yn ystod bywyd fel oedolyn, gan gynnwys gweithgareddau seiliedig ar y gweithle i hybu iechyd da, hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol a chyfalaf cymdeithasol drwy ymgysylltu â'r gymuned
•    Mae dulliau i wella cydnerthedd pobl hŷn yn canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd cadarnhaol, cryfhau cysylltiadau cymdeithasol ac ymgysylltu ystyrlon, ynghyd â gwella annibyniaeth. Mae gan y cyd-destunau economaidd ac amgylcheddol ehangach rôl allweddol i'w chwarae o ran penderfynu ar yr amodau cefnogol ar gyfer cydnerthedd mewn unrhyw gymuned

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ddulliau cyffredinol o wella cydnerthedd ac mae'n cydnabod bod meithrin cydnerthedd yn y rhai agored i niwed, y rhai sydd ar y cyrion neu ymhlith y rhai sydd wedi profi trawma, yn galw am gymorth wedi'i deilwra a'i dargedu'n well.

Mae’r adroddiad yn ganlyniad adolygiad llenyddiaeth a ystyriodd gydnerthedd ar lefel unigol a chymunedol.  Mae'n defnyddio enghreifftiau o raglenni i gryfhau cydnerthedd drwy gydol bywyd ac mewn cymunedau.

Adroddiad

Cydnerthedd Deall y rhyng-ddibyniaeth rhwng unigolion a chymunedau