Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn barod ar gyfer Brexit

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod gennym drefniadau cadarn ar waith cyn i ymadawiad arfaethedig y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr 2020.

Mae'r sefydliad wedi bod yn paratoi ar gyfer ymadawiad y DU o'r UE, ac rydym yn annog unrhyw sy'n sy'n ymgysylltu â'n gwasanaethau i wneud hynny fel arfer.

Dylai aelodau o'r cyhoedd a wahoddir i un o'n rhaglenni sgrinio fynd i'w hapwyntiad neu gwblhau'r pecyn prawf fel arfer.  Dylai unrhyw un sy'n gymwys i gael unrhyw fath o frechiad o dan ein Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy – ac yn enwedig yr ymgyrch Curwch Ffliw y gaeaf hwn – geisio cael brechiad fel arfer.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus a'r Prif Berchennog Cyfrifol ar gyfer Paratoadau Brexit, Dr Quentin Sandifer:

“Rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer Brexit ers peth amser, ac rydym yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod trefniadau cadarn ar waith cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020. 

“Os cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn un o'n rhaglenni sgrinio, ewch i'ch apwyntiad neu cwblhewch eich pecyn prawf fel arfer.  Bydd y rhaglenni yn cael eu cyflwyno fel arfer.

“Mae ein cyflenwadau o frechlynnau, gan gynnwys brechlynnau'r ffliw, MMR, a llid yr ymennydd, hefyd yn fwy na digonol.  Os ydych yn gymwys i gael eich brechu, cymerwch gamau i gael eich brechu fel y byddech fel arfer.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr i gynnal ein cynlluniau i baratoi ar gyfer Brexit.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu amrywiaeth o raglenni sgrinio ar gyfer y cyhoedd.  Y rhain yw:

  • Sgrinio Serfigol Cymru
  • Bron Brawf Cymru
  • Sgrinio Coluddion Cymru
  • Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru
  • Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru
  • Sgrinio Cyn Geni Cymru
  • Sgrinio Clyw Babanod Cymru
  • Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu gwasanaeth Helpa Fi i Stopio i smygwyr, ac ni fydd ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar y gwasanaeth hwn.  Dylai unrhyw un sydd am roi'r gorau i smygu ffonio 0800 085 2219, Tecstio HMQ i 80818, neu fynd i helpafiistopio.cymru am help a chymorth am ddim, effeithiol ac wedi'i deilwra