Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod gennym drefniadau cadarn ar waith cyn i ymadawiad arfaethedig y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr 2020.
Mae'r sefydliad wedi bod yn paratoi ar gyfer ymadawiad y DU o'r UE, ac rydym yn annog unrhyw sy'n sy'n ymgysylltu â'n gwasanaethau i wneud hynny fel arfer.
Dylai aelodau o'r cyhoedd a wahoddir i un o'n rhaglenni sgrinio fynd i'w hapwyntiad neu gwblhau'r pecyn prawf fel arfer. Dylai unrhyw un sy'n gymwys i gael unrhyw fath o frechiad o dan ein Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy – ac yn enwedig yr ymgyrch Curwch Ffliw y gaeaf hwn – geisio cael brechiad fel arfer.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus a'r Prif Berchennog Cyfrifol ar gyfer Paratoadau Brexit, Dr Quentin Sandifer:
“Rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer Brexit ers peth amser, ac rydym yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod trefniadau cadarn ar waith cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020.
“Os cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn un o'n rhaglenni sgrinio, ewch i'ch apwyntiad neu cwblhewch eich pecyn prawf fel arfer. Bydd y rhaglenni yn cael eu cyflwyno fel arfer.
“Mae ein cyflenwadau o frechlynnau, gan gynnwys brechlynnau'r ffliw, MMR, a llid yr ymennydd, hefyd yn fwy na digonol. Os ydych yn gymwys i gael eich brechu, cymerwch gamau i gael eich brechu fel y byddech fel arfer.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr i gynnal ein cynlluniau i baratoi ar gyfer Brexit.”
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu amrywiaeth o raglenni sgrinio ar gyfer y cyhoedd. Y rhain yw:
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu gwasanaeth Helpa Fi i Stopio i smygwyr, ac ni fydd ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar y gwasanaeth hwn. Dylai unrhyw un sydd am roi'r gorau i smygu ffonio 0800 085 2219, Tecstio HMQ i 80818, neu fynd i helpafiistopio.cymru am help a chymorth am ddim, effeithiol ac wedi'i deilwra