Neidio i'r prif gynnwy

Gostwng oedran sgrinio canser y coluddyn i 55 oed

Cyhoeddwyd: 4 Hydref 2022

Bydd profion sgrinio canser y coluddyn ar gael i fwy o bobl yng Nghymru wrth i brofion cartref gael eu hehangu i gynnwys unigolion 55-57 oed. 

Golyga hyn y bydd 172,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn dechrau cael pecynnau hawdd eu defnyddio sy’n profi am ganser cyfnod cynnar yn y coluddyn. Mae’r cam hwn yn rhan o ddull fesul cam o ostwng yr oedran sgrinio i 50 erbyn mis Hydref 2024.  

Bydd pobl 55, 56 a 57 oed yn dechrau cael eu gwahodd i gael eu sgrinio o ddydd Mercher 5 Hydref a bydd eu pecynnau profi gartref yn cyrraedd drwy’r post. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno i’r grŵp oedran cymwys newydd yn raddol dros y 12 mis nesaf. 

Yn rhan o becyn buddsoddi gwerth £16 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae’r cyllid wedi cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r pecyn profi gartref FIT (Prawf Imiwnocemegol ar Ysgarthion), sy’n newydd ac yn haws ei ddefnyddio. Mae’r pecynnau profi gartref newydd wedi helpu i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y prawf sgrinio i 65% ac maent yn fwy sensitif er mwyn canfod rhagor o bobl sydd mewn perygl o ddatblygu canser y coluddyn. 

Cafodd mwy na 2,500 o bobl ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2019. Mae’r rhaglen sgrinio yn chwarae rhan bwysig o ran canfod canser yn gynharach ac yn helpu i wella canlyniadau canser yng Nghymru. 

Mae’r penderfyniad i ostwng yr oedran sgrinio yn seiliedig ar argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:  

“Mae’n wych gweld cam nesaf ein cynllun i ehangu’r mynediad at raglen sgrinio canser y coluddyn yn dod i rym. 

“Rydym eisoes wedi cyflwyno’r prawf haws ei ddefnyddio, ac wedi dechrau gwahodd unigolion 58-59 oed. Mae’r cam nesaf hwn o’r rhaglen yn ehangu mynediad i’r rhai 55-57 oed. 

“Bydd hyn yn ein helpu i ddarganfod mwy o achosion o ganser y coluddyn yn gynnar ac yn cynorthwyo i sicrhau gwelliannau mewn cyfraddau goroesi. 

“Rwy’n falch o weld hefyd bod mwy o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglen a bod y cyfraddau sy’n manteisio ar y profion sgrinio nawr yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig. 

“Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu parhau i wella’r rhaglen drwy ostwng yr ystod oedran i 50 a gwella sensitifrwydd y prawf nes y byddwn yn cyd-fynd ag argymhellion y DU.” 

Dywedodd Genevieve Edwards, Prif Weithredwr Bowel Cancer UK:  

"Mae hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir tuag at sgrinio o 50 oed yng Nghymru - rhywbeth rydym wedi ymgyrchu amdano ers peth amser. Sgrinio yw un o’r ffyrdd gorau o roi diagnosis cynnar o ganser y coluddyn, a’i atal yn y lle cyntaf mewn rhai achosion, felly rydym yn croesawu’r penderfyniad i wahodd mwy o bobl i gymryd rhan.  

“Cynnig y pecyn profi gartref i fwy o bobl yw un ffordd o wella rhaglen sgrinio’r coluddyn. Fodd bynnag, y rhwystr mwyaf i wella diagnosis cynnar, a chynnig rhaglen sgrinio o’r radd flaenaf, yw’r prinder gweithwyr hirdymor yn y gwasanaethau endosgopi a phatholeg. Mae angen inni fynd i’r afael â hyn ar frys drwy gynllun gweithlu cynhwysfawr a all gefnogi rhaglen sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru i gyrraedd ei photensial llawn.” 

Dywedodd Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwyr Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Rwyf wrth fy modd ein bod yn ehangu rhaglen sgrinio canser y coluddyn i gynnwys y rhai sy’n 55, 56 a 57 oed yng Nghymru. 

“Nod rhaglen sgrinio canser y coluddyn yw canfod canser yn gynnar, ar adeg pan fydd triniaeth yn fwy tebygol o fod yn effeithiol. Mae canfod canser yn gynnar yn arbennig o bwysig gan y bydd o leiaf 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ddarganfod a’i drin yn gynnar. Mae rhaglen sgrinio canser y coluddyn hefyd yn canfod polypau cyn-ganseraidd sydd angen eu tynnu gan y gallant ddatblygu i fod yn ganser os cânt eu gadael yn y coluddyn. 

“Bydd y gwahoddiad a’r pecyn profi yn cyrraedd yr unigolion cymwys drwy’r post yn ystod y 12 mis nesaf. Mae’r pecyn profi yn hawdd ei ddefnyddio a’i anfon i’n labordy i’w ddadansoddi.   

“Rwy’n annog pawb sy’n cael gwahoddiad i fanteisio ar y cynnig hwn gan y gall achub eu bywyd.”