Neidio i'r prif gynnwy

Gallai mabwysiadu cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru wella iechyd i bawb

Cyhoeddwyd: 22 Mehefin 2021

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (18.06.21) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai cyflwyno cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru fod yn gatalydd ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a llesiant i bawb.  

Mae'r syniad o incwm sylfaenol cyffredinol, math o nawdd cymdeithasol sydd â'r nod o ddarparu swm penodol o incwm rheolaidd i bawb, er enghraifft £500 y mis heb brawf modd, wedi bodoli ers canrifoedd ond heb gael ei weithredu'n llawn.  

Yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, nododd canfyddiadau allweddol gweithredu cynllun o'r fath effeithiau cadarnhaol posibl ar iechyd pobl, gan gynnwys:  

  • Cynyddu diogelwch incwm: Pryderon ariannol yw un o'r sbardunau mwyaf cyffredin ar gyfer gorbryder ac iselder 

  • Gostyngiadau mewn tlodi plant a gwelliannau mewn canlyniadau eraill yn ystod plentyndod: Mae ymchwil yn dangos bod plant yn gallu dysgu'n well yn yr ysgol pan fydd ganddynt ddigon i'w fwyta a bywyd teuluol sefydlog 

  • Cyrhaeddiad addysgol gwell: Mae plant o gefndir ariannol diogel yn fwy tebygol o aros mewn addysg yn hwy neu ddychwelyd i addysg   

  • Arian ychwanegol i'r rhai sy'n fwy tebygol o fod mewn swyddi â chyflog is fel pobl anabl a menywod o ardaloedd difreintiedig, gan arwain at safon byw uwch 

  • Mwy o ddiogelwch bwyd a gwell maeth 

  • Gwelliannau i ansawdd tai ac opsiynau tai mwy fforddiadwy 

  • Gostyngiad yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty yn enwedig mewn perthynas â damweiniau, anafiadau a chyflyrau iechyd meddwl 

  • Fodd bynnag, pan gafodd y cynlluniau eu hatal, lleihaodd yr effeithiau cadarnhaol ac mewn rhai achosion roedd llesiant wedi gwaethygu o'i gymharu â'r cyfnod cyn gweithredu'r cynllun. 

Mae’r adroddiad ‘Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru?’ yn ystyried amrywiaeth o dystiolaeth ac yn trafod effeithiau posibl ar iechyd a llesiant. Mae hefyd yn edrych ar y dulliau gwahanol o gynllunio a gweithredu polisi yn rhyngwladol.   

Meddai awdur yr adroddiad Adam Jones, Uwch-swyddog Polisi ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Byddai pa mor dda y mae cynllun incwm sylfaenol yn gweithio yn sicr yn dibynnu ar sut y caiff ei gynllunio a'i ddarparu. 

“Mae faint o incwm y mae'n ei ddarparu, pwy sy'n gymwys i gael yr incwm, a pha mor hir y mae'r cynllun wedi'i gynllunio i bara i gyd yn ffactorau hollbwysig wrth bennu canlyniadau. 

 “Mae diogelu a gwella iechyd Cymru wrth wraidd popeth a wnawn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu y byddai aelodau o gymdeithas yn cael budd o incwm sy'n cefnogi eu hiechyd a'u llesiant ac yn eu galluogi i gyfrannu at gymdeithas a ffynnu.  

“Mae math o incwm sylfaenol yn un o'r opsiynau y gall llywodraeth eu hystyried i gyflawni hyn. Mae’n gysyniad radical nad yw wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol eto gan unrhyw wlad ond mae rhannau o Ganada a'r Ffindir wedi treialu cynlluniau, gyda gwahanol ddulliau, gyda'r ddau yn gweld effeithiau cadarnhaol ar iechyd a llesiant yn y boblogaeth. Roedd y rhain yn cynnwys pobl yn nodi gwell llesiant meddyliol, gyda gwell boddhad yn eu bywydau, a llai o straen meddyliol, iselder ac unigrwydd. Nododd y derbynwyr hefyd welliannau mewn diogelwch incwm, defnydd addysgol, a chyfranogiad cymunedol.  

“Fodd bynnag, mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig, ac mae llawer o feysydd lle nad oes fawr ddim newid mewn canlyniadau, os o gwbl. Mae incwm sylfaenol fel syniad ac fel cynnig mor amlweddog a chymhleth â'r materion y mae angen iddo fynd i'r afael â nhw.” 

Mae'r adroddiad yn nodi opsiynau ar gyfer gwneuthurwyr polisi sy'n ystyried incwm sylfaenol, fel cynnal modelu economaidd, rhoi iechyd a llesiant fel nod craidd unrhyw gynllun, a chynnal astudiaethau dichonoldeb i ddeall sut y gellid cyflwyno incwm sylfaenol yng Nghymru.