Bydd rhaglen frechu newydd sy'n “gweddnewid pethau” yn darparu amddiffyniad yn erbyn yr haint anadlol mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod am y tro cyntaf yng Nghymru a gweddill y DU.
Mae Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn feirws heintus sy'n cylchredeg yn y gaeaf, gan heintio hyd at 90 y cant o blant o fewn dwy flynedd gyntaf eu bywyd ac yn aml yn heintio plant hŷn ac oedolion. Mae RSV yn cyfrif am tua 1,000 o achosion o fabanod yn mynd i'r ysbyty yn flynyddol yng Nghymru. Gall hefyd arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol i oedolion dros 75 oed, gan arwain at tua 125 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae haint RSV yn achosi salwch anadlol is ysgafn gyda symptomau tebyg i annwyd, ond mae babanod o dan un oed a'r henoed yn wynebu risg uwch o salwch mwy difrifol a allai arwain at orfod mynd i'r ysbyty. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y brechlyn yn ddiogel ac yn cynnig amddiffyniad rhagorol, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau gofal sylfaenol GIG Cymru yn ystod misoedd prysur y gaeaf.
Bydd y rhaglen frechu yn gweld y rhai 75 i 79 oed a menywod beichiog (o 28 wythnos) yn cael cynnig brechiad yn erbyn RSV am y tro cyntaf, o fis Medi.
Meddai Dr Christopher Johnson, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd a Phennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er bod RSV yn feirws anadlol cyffredin sydd fel arfer yn achosi symptomau ysgafn, gall fod yn ddifrifol. Mae babanod ac oedolion hŷn yn fwy tebygol o ddatblygu RSV difrifol, a allai ei gwneud yn ofynnol mynd i'r ysbyty. Bydd y rhaglen frechu hon yn ei lle i ddiogelu grwpiau agored i niwed nawr ac yn y dyfodol.
“Yn flynyddol yng Nghymru, amcangyfrifir bod haint RSV yn y rhai dros 75 oed yn gyfrifol am 7,000-9,000 o apwyntiadau meddyg teulu , 700-1,000 o dderbyniadau i'r ysbyty a'r hyn all fod yn gannoedd o farwolaethau bob blwyddyn, Iechyd Cyhoeddus Cymru Awdur: Dyddiad: Fersiwn: Rhif y dudalen: 2 ynghyd â 3,700 o dderbyniadau babanod i adrannau damweiniau ac achosion brys, 1,000 o dderbyniadau i'r ysbyty a 95 o dderbyniadau i unedau gofal dwys. Mae'r rhaglen frechu RSV yn cynnig y potensial i leddfu'r pwysau ar wasanaethau gofal sylfaenol ein GIG drwy atal y cleifion hyn rhag myndyn sâl yn y lle cyntaf neu leihau'r tebygolrwydd o haint difrifol yn sylweddol."