Cyhoeddwyd: 12 Gorfennaf 2022
Mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar bob person ifanc yng Nghymru, er bod sut yr effeithiwyd ar lesiant meddyliol pobl ifanc yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, yn ôl Asesiad newydd o'r Effaith ar Lesiant Meddyliol (MWIA) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at dystiolaeth gref bod blociau adeiladu allweddol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant da, gan gynnwys teulu a pherthnasoedd cymdeithasol, addysg, diogelwch economaidd, mynediad at wasanaethau, cyfranogiad mewn gweithgareddau grŵp, teimlo'n ddiogel ac mewn rheolaeth i gyd wedi'u heffeithio yn ystod y pandemig.
Mae'r adroddiad manwl yn nodi cyfres o ffactorau a helpodd i ddiogelu iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Roedd y rhain yn cynnwys, perthnasoedd agos â rhieni, cael tai diogel gyda lle i astudio a bod yn yr awyr agored, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, cadw'n gorfforol egnïol, cynnal trefn a strwythur i'r dydd, ceisio cymorth pan fo angen, dysgu sgiliau newydd, gweithgareddau hamdden a chreadigol.
Meddai awdur yr adroddiad, Nerys Edmonds, Prif Swyddog Datblygu Asesu'r Effaith ar Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Cynhaliwyd yr MIWA i nodi effeithiau pandemig COVID-19 ar lesiant meddyliol pobl ifanc 10-24 oed yng Nghymru. Ar gam cynnar o'r ‘cyfnod clo’ cyntaf yng ngwanwyn 2020, deallwyd y byddai effeithiau mawr tebygol ar iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc, ond roedd diffyg tystiolaeth i lywio polisi.
“Roeddem yn disgwyl iddo dynnu sylw at effeithiau negyddol y pandemig ar bobl ifanc. Cafodd tarfu ar ryngweithio cymdeithasol, perthnasoedd, addysg a gweithgareddau grŵp effaith bellgyrhaeddol ar iechyd meddwl pobl ifanc ar adeg allweddol yn eu bywydau a'u datblygiad. Mae tystiolaeth gref o fwy o effeithiau negyddol ar rai grwpiau, gan gynnwys pobl ifanc 16-24 oed o gymharu â grwpiau oedolion eraill, menywod ifanc, y rhai sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel, y rhai a gafodd cyngor i warchod, a'r rhai ag anghenion iechyd meddwl presennol neu anghenion dysgu ychwanegol.
“Dangosodd pobl ifanc hefyd gadernid a'r gallu i addasu yn ystod amodau heriol y pandemig, a tharfu ar eu bywydau a'u haddysg. Roedd llawer wedi defnyddio strategaethau ymdopi a meddwl newydd i helpu eu hunain, gan weithredu i helpu eraill drwy wirfoddoli neu gefnogi aelodau o'r teulu. Datblygodd rhai sgiliau newydd a daethant yn ddysgwyr mwy annibynnol.
“Rydym bellach am ddefnyddio'r wybodaeth hon i helpu sefydliadau ledled Cymru i gefnogi'r rhai sy'n dioddef yn fwy negyddol o ganlyniadau COVID-19 ac i ddefnyddio'r dysgu hwn i ymateb i'r heriau yn y dyfodol a allai effeithio ar lesiant meddwl yn y tymor hwy, fel newid hinsawdd, a chynllunio ar gyfer unrhyw bandemig ac argyfwng yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwn wedi ein galluogi i nodi deg maes gweithredu allweddol i wneud hyn.
“Mae angen dull trawslywodraethol a chymdeithas gyfan ac mae gan bobl ifanc, teuluoedd, cyflogwyr, cymunedau ac ysgolion yn ogystal ag iechyd a gofal cymdeithasol i gyd rôl bwysig i'w chwarae yn yr adferiad o'r pandemig a diogelu iechyd meddwl yn yr hirdymor.”
Mae meysydd ar gyfer gweithredu a nodwyd o'r asesiad yn cynnwys:
‘Diogelu llesiant meddyliol ein cenedlaethau'r dyfodol: dysgu o COVID-19 ar gyfer yr hirdymor. Dull Asesu'r Effaith ar Lesiant Meddyliol.’