Neidio i'r prif gynnwy

Gall Mabwysiadu Dull Iechyd Cyhoeddus o Gynorthwyo Rhieni Helpu i Roi'r Dechrau Gorau Posibl mewn Bywyd i Blant

Cyhoeddwyd: 14 Mawrth

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Raglen 1000 Diwrnod Cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgrifio sut y gall rhieni, cymunedau a'r gymdeithas ehangach weithio gyda'i gilydd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd theori, tystiolaeth ymchwil a mewnwelediad presennol o brofiad rhieni a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Mae'n amlygu'r rôl ganolog sydd gan rieni wrth lunio bywydau eu plant yn y 1000 diwrnod cyntaf a sut y mae gan gamau gweithredu i gynorthwyo rhieni i ffynnu yn eu rôl magu plant y potensial i dorri cylchoedd o anfantais rhwng y cenedlaethau a chynorthwyo llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Mae magu plant yn chwarae rôl allweddol wrth ddylanwadu ar lesiant plant heddiw ac yn y dyfodol ac mae'r adroddiad yn amlinellu dull iechyd cyhoeddus o gefnogi rhieni sy'n symud y ffocws o'r hyn y ‘dylai’ rhieni unigol ei wneud tuag at greu'r amodau i deuluoedd ffynnu. Mae'n amlygu sut y mae'r lleoedd y mae rhieni yn byw, yn gweithio ac yn cymdeithasu ynddynt yn dylanwadu ar sut y mae rhieni'n meddwl ac yn teimlo, a'r hyn y gallant ei wneud. Mae cymdeithas sy'n cefnogi magu plant yn cynnig gwaith teg; cartrefi sy'n ddiogel ac yn gynnes; trafnidiaeth fforddiadwy; cymunedau cryf; a mynediad hawdd at wasanaethau cefnogol pan fydd eu hangen.

Meddai Amy McNaughton, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Nid yw magu plant yn hawdd ac mae'n anoddach os nad oes gennych y pethau sydd eu hangen arnoch neu os ydych yn poeni'n gyson am gael dau ben llinyn ynghyd. Mae gwahaniaethau annheg yn yr adnoddau a'r cymorth sydd gan rieni a'r amgylchiadau y maent yn eu hwynebu. Mae gwybodaeth a sgiliau magu plant yn chwarae rhan ond, i gynorthwyo rhieni i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'w plentyn, mae angen camau gweithredu ar draws y system.”

Mae'r adroddiad hefyd yn disgrifio sut y mae iechyd meddwl da a chymorth cymdeithasol yn gweithredu fel clustogau, gan helpu rhieni i reoli heriau a lleihau'r effaith ar gyfer eu plant.

Ymhlith yr argymhellion allweddol mae:

  • Mabwysiadu dulliau cynhwysol, sy'n canolbwyntio ar y teulu ar gyfer datblygu polisi lleol a chenedlaethol i nodi a lleihau unrhyw effeithiau negyddol i deuluoedd.
  • Mae angen set gyffredin o ddangosyddion ar draws y system i roi tystiolaeth well a deall effaith mabwysiadu dull iechyd cyhoeddus o gynorthwyo rhieni.
  • Mae gwasanaethau ymweliadau iechyd a bydwreigiaeth, fel y gwasanaethau cymorth cyffredinol yn y 1000 diwrnod cyntaf, mewn sefyllfa unigryw i asesu anghenion teuluoedd yn systematig a hwyluso mynediad cynnar at amrywiaeth eang o gymorth
  • Mae parhad gofal yn hanfodol i ddatblygu perthnasoedd ymddiriedus sy'n angenrheidiol ar gyfer cymorth teuluol effeithiol.
  • Dylai gwybodaeth a chymorth magu plant cyson, o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth fod ar gael i'r holl deuluoedd, gyda chymorth wedi'i dargedu ar gael lle nodir anghenion ychwanegol.
  • Nodi a mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth cymorth i helpu teuluoedd i reoli ffactorau cyffredin sy'n achosi straen i deuluoedd fel problemau o ran perthynas, dyledion a thai.

Mae ‘1000 Diwrnod Cyntaf: Dull Iechyd Cyhoeddus o Gynorthwyo Rhieni, adroddiad cryno’ yn rhan o gyfres o waith sy'n ceisio annog a chefnogi gweithredu ar draws systemau i wella canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau yn ystod beichiogrwydd a hyd at ail ben-blwydd plentyn. Mae hwn yn gyfnod hollbwysig o ddatblygu cyflym lle gosodir y sylfeini ar gyfer iechyd a llesiant a chyfleoedd bywyd yn y dyfodol.