Neidio i'r prif gynnwy

Gall gweithio gartref wella llesiant meddyliol – ond gall gynyddu'r risg o straen hefyd

Nodir bod hyblygrwydd, annibyniaeth a hyrwyddo cydbwysedd gwaith/bywyd iach hefyd yn effeithiau cadarnhaol o weithio hyblyg a gweithio gartref, mewn adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Fodd bynnag, nodir bod mwy o ynysu cymdeithasol ac unigrwydd, yn ogystal â heriau mewn perthynas â sgiliau digidol a chysylltedd, yn effeithiau negyddol posibl.

Mae’r adroddiad, ‘Byd pandemig COVID-19 a thu hwnt: Effaith Gweithio Gartref ac Ystwyth ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru’, yn amlygu’r effeithiau cadarnhaol a negyddol y gall gweithio hyblyg a gweithio gartref eu cael ar iechyd a llesiant y cyhoedd ac, yn benodol, ar iechyd meddwl.

Mae’n nodi bod gan y ddau arfer gweithio, sydd wedi’u mabwysiadu’n eang gan weithlu Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19, y potensial i greu effeithiau cadarnhaol sydd mor eang â gwell effeithlonrwydd a chynhyrchiant gan y gweithiwr, adfywio cymunedau ac economïau gwledig a lleol, a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu.

Mae hefyd yn amlygu’r posibilrwydd o effeithiau amgylcheddol cadarnhaol posibl, sy’n deillio o ddefnyddio ceir yn llai aml ar gyfer cymudo. 

Fodd bynnag, mae hyn wedi’i osod yn erbyn nifer o effeithiau negyddol, gan gynnwys lludded, blinder yn sgil gweithio gartref a’r potensial am fwy o ymddygiadau iechyd negyddol fel bwyta byrbrydau’n fwy aml.

Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd dystiolaeth o ystod o ffynonellau ac mae’n amlygu sut mae’r mesurau parhaus sy’n esblygu, sydd ar waith i’n hamddiffyn rhag Coronafeirws, yn effeithio ar ein llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. 

Mae’n ystyried ystod eang o grwpiau poblogaeth, gan gynnwys menywod, y rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain, y rhai â chyfrifoldebau gofalu a’r rhai ar incwm isel.

Dywedodd Dr Sumina Azam, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Cyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod gweithio hyblyg a gweithio gartref yn cael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar sawl agwedd ar ein bywydau. Gallai rhai o’r effeithiau negyddol hyn bara am y tymor hir a chynyddu anghydraddoldebau iechyd hefyd.

“Mae’r asesiad yn helpu i nodi ble mae angen i ni weithredu er mwyn atal canlyniadau anfwriadol o’r fath, yn ogystal â chynyddu’r effeithiau cadarnhaol ar gyfer y grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt.”

Mae’r adroddiad yn adeiladu ar gyhoeddiad blaenorol ym mis Mehefin 2020 ‘Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r ‘Polisi Aros Gartref ac Ymbellhau Cymdeithasol’ yng Nghymru mewn ymateb i’r pandemig COVID-19’.

Mae’n amlygu nifer o gyfleoedd a chamau i’w hystyried gan randdeiliaid, gan gynnwys llunwyr polisi, gweithwyr iechyd proffesiynol, cyflogwyr a’u grwpiau cynrychioli, undebau llafur a sefydliadau yn y trydydd sector. 

Dywedodd Liz Green, Cyfarwyddwr y Rhaglen Asesu’r Effaith ar Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae darogan canlyniadau iechyd yn gymhleth ac yn anodd, ac mae hyd yn oed yn waeth yng nghyd-destun cyfyngiadau parhaus a sefyllfa sy’n newid yn gyflym.

“Er hyn, mae’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd hwn yn rhoi llawer i feddwl amdano, gan gynnwys helpu i lywio penderfyniadau a sicrhau bod y niweidiau lleiaf a’r buddion mwyaf yn deillio o weithio hyblyg a gweithio gartref wrth i ni ddysgu i fyw a gweithio gyda COVID-19.

“Rydym yn cydnabod na all pawb weithio gartref ac felly mae angen mabwysiadu dull holistaidd a chytbwys.”

Wrth i lawer o bobl barhau i weithio gartref am y tro, mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio bod nifer o fylchau mewn ymchwil a thystiolaeth, gan gynnwys ar yr effaith ar yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd.

Mae’r asesiad o’r effaith ar iechyd wedi’i gyflwyno yn yr adroddiad cryno isod, ynghyd â ffeithlun a dogfen wybodaeth ategol.

Byd pandemig COVID-19 a thu hwnt: Effaith Gweithio Gartref ac Ystwyth ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru

Adroddiad Cryno

Ffeithlun

Dogfen Wybodaeth Ategol (Saesneg yn unig)