Neidio i'r prif gynnwy

Gadael yr UE yn gyfle ac yn risg i iechyd y cyhoedd wrth i gytundebau masnach newydd gael eu negodi

Cyhoeddwyd: 28 Hydref 2021

Am y tro cyntaf ers hanner canrif, mae'r DU nawr yn rhydd i negodi ei chytundebau masnach rhyngwladol ei hun gan ei bod wedi gadael yr UE.

Bydd gan delerau'r cytundebau masnach hyn y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru mewn sawl ffordd - o'r bwyd byddwn ni'n ei fwyta i'n gwasanaethau gofal iechyd, y farchnad swyddi a'r gallu i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.   

Dywedodd Louisa Petchey, Uwch Arbenigwr Polisi, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol:   

“Gall cytundebau masnach gael effeithiau pellgyrhaeddol ar iechyd y cyhoedd - ar benderfynyddion iechyd ac ar y gallu i lywodraethau wella iechyd y cyhoedd trwy bolisi newydd.   

Nod y papur hwn yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yw helpu arbenigwyr polisi masnach i ddeall perthnasedd iechyd y cyhoedd i'w gwaith, a galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i adnabod lle y gallai cytundebau masnach effeithio ar eu hymdrechion i wella canlyniadau iechyd y cyhoedd.   

Bydd negodi cytundebau masnach newydd yn sicr yn dod â chyfleoedd i Gymru a gweddill y DU ond bydd angen i ni fod yn wyliadwrus o'r canlyniadau negyddol anfwriadol posibl i iechyd y cyhoedd hefyd.   

Bydd gan bob un ohonom sy'n gweithio ym maes iechyd y cyhoedd yng Nghymru ran i'w chwarae wrth lywio telerau cytundebau a pholisi masnach newydd lle maent yn ymwneud â'n meysydd arbenigedd i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i iechyd a llesiant. ” 

Y negeseuon allweddol o'r adroddiad yw:  

  • Bydd y cytundebau masnach yn debygol o effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru drwy achosi newidiadau i gyflogaeth, ffermio, bwyd a'r gallu i gyflawni ei huchelgais newid hinsawdd a chynaliadwyedd.  
  • Bydd effeithiau cytundebau masnach yn debygol o effeithio’n wahanol ar wahanol unigolion a chymunedau. Mae’n bosibl y byddant yn atgyfnerthu neu’n gwaethygu iechyd ac anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru.   
  • Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am drafod yr holl gytundebau masnach a byddai angen i Lywodraeth Cymru eirioli dros gytundebau masnach sy'n gweithio i Gymru yn ystod y broses honno.  Nid oes gan Aelodau o’r Senedd yng Nghymru na'r Senedd ei hun y pŵer i newid na gwrthod cytundebau masnach newydd.   
  • Hyd yn hyn nid yw Llywodraeth y DU wedi cymryd camau rhagweithiol i ddefnyddio ei pholisi masnach annibynnol i hybu gwell canlyniadau iechyd y cyhoedd.  Mae’n bosibl y bydd telerau cytundebau masnach newydd a deddfau cysylltiedig yn ei gwneud yn anoddach i Lywodraeth Cymru gyflwyno polisïau newydd i wella iechyd y cyhoedd, er enghraifft ar newid hinsawdd neu helpu i fynd i'r afael â gordewdra.   

‘Nodyn briffio: Beth allai cytundebau masnach ar ôl Brexit ei olygu i iechyd y cyhoedd yng Nghymru?’. Mae’r nodyn briffio hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol a swyddogion iechyd y cyhoedd sy’n gweithio ar bolisi iechyd y cyhoedd ac sydd â diddordeb mewn sut y gall Brexit a chytundebau masnach effeithio ar eu gwaith. Mae’r nodyn briffio hefyd ar gyfer swyddogion y DU a Chymru sy’n gweithio ym maes polisi masnach i godi ymwybyddiaeth o berthnasedd masnach i iechyd a llesiant pobl Cymru.