Cyhoeddyd: 18 Gorfennaf 2025
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyd-gynhyrchu fframwaith gofal iechyd i gefnogi GIG Cymru i ddod yn system gofal iechyd ataliol, deg, gynaliadwy ac yn un sy’n dysgu.
Dywed y corff fod gweithredu'r fframwaith yn y system gofal iechyd yn gofyn am ddefnydd rhagweithiol a chydlynol o egwyddorion iechyd y cyhoedd gofal iechyd ar bob lefel a maes gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys dyrannu adnoddau'n gymesur i sicrhau newid mewn atal a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn canlyniadau.
Mae'r fframwaith yn cydnabod y gwaith da sydd eisoes yn digwydd ar draws y system ac yn cynnig adeiladu capasiti a gallu ymhellach i ehangu'r ymdrechion.
Yn ogystal â hyn, mae'r fframwaith yn cynnwys cyfres o enghreifftiau ymarferol ar Glefyd Cardiofasgwlaidd ac Atal Cwympiadau. Bydd y rhain yn rhoi cymorth pendant ac ymarferol i bartneriaid yn y system i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn rhestrau aros ac atal toresgyrn breuder i geisio helpu i wireddu'r fframwaith hwn.
Ochr yn ochr â'r fframwaith Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal a lansiwyd yn ddiweddar, mae'r sefydliad yn anelu at sicrhau ffocws i fyny'r gadwyn, ac ymgorffori gwerthoedd iechyd y cyhoedd i gefnogi datblygiad system gofal iechyd gynaliadwy.
I gefnogi gweithredu'r fframwaith, cynhyrchwyd pecyn cymorth sy'n dwyn ynghyd nifer o offer a fframweithiau y gellid eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu ar y cyd i gefnogi lleoliadau, systemau a phartneriaethau gofal iechyd i asesu ac optimeiddio eu gwasanaethau o safbwynt y boblogaeth. Mae'r pecyn cymorth yn adnodd i helpu i nodi tueddiadau, anghenion, a gwahaniaethau o fewn cymunedau, ac i gefnogi cynllunio a chyflawni effeithiol a gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau.
Dywedodd yr Athro Jim McManus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd y Cyhoedd Gofal Iechyd yn golygu cymhwyso sgiliau ac arbenigedd iechyd y cyhoedd i gefnogi effeithiolrwydd, tegwch ac effeithlonrwydd iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi bod yn rhan annatod ers sefydlu'r GIG, ac mae'n blaenoriaethu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, anghenion y boblogaeth ac optimeiddio technoleg i helpu i gyflawni cymdeithas iachach ac i ddiwallu'r galw yn y dyfodol.
“Mae’r fframwaith hwn yn ganlyniad i weithio mewn partneriaeth a chydweithio gwirioneddol ar draws y system gyfan yn ogystal â chyda Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd mewn modd rhagweithiol er mwyn datblygu ffyrdd o weithio a fydd â manteision gwirioneddol i iechyd a llesiant pobl Cymru.”