Neidio i'r prif gynnwy

Edrychwch ar ein cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf

Dysgwch am ein cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf gyda'n Hadroddiad Blynyddol newydd. 

Cafodd y ddogfen ei chyhoeddi heddiw, ddydd Iau 25 Gorffennaf 2019 yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghampws Prifysgol De Cymru Casnewydd.

Mae’r adroddiad yn amlinellu'r hyn a gyflawnwyd gan y sefydliad yn 2018-19, gan nodi sut rydym wedi cael effaith yn erbyn saith maes blaenoriaeth o waith. Mae hefyd yn cynnwys adroddiadau cynaliadwyedd ac atebolrwydd, ynghyd â'n datganiadau ariannol.

Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:  “Dyma'r Adroddiad Blynyddol cyntaf i gynnwys ein cynnydd yn erbyn set newydd sbon o flaenoriaethau strategol i ni. Gyda'n staff rhagorol a thrwy weithio gyda'n holl bartneriaid, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at gyflawni dyfodol iachach i Gymru.”

Roedd y cyfarfod cyffredinol blynyddol hefyd yn cynnwys trosolwg gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Aneurin Bevan a sesiwn holi ac ateb. Os nad oeddech yn gallu dod i'r digwyddiad (neu ei ddilyn yn fyw ar Facebook), gallwch ei wylio ar ein tudalen Facebook.

Dyma'r saith maes blaenoriaeth y mae'r Adroddiad Blynyddol yn canolbwyntio arnynt:
•    Cefnogi datblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.
•    Adeiladu a symud gwybodaeth a sgiliau i wella iechyd a llesiant ar draws Cymru.
•    Diogelu'r cyhoedd rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol i iechyd.
•    Sicrhau dyfodol iach i'r genhedlaeth nesaf.
•    Hyrwyddo ymddygiad iach.
•    Gwella llesiant meddyliol a chydnerthedd.
•    Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd.

Gellir gweld yr Adroddiad Blynyddol ei hun ar y wefan:

Gweithio  i gyflawni  dyfodol iachach  i gymru: Adroddiad Blynyddol 2018-19