Dysgwch am ein cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf gyda'n Hadroddiad Blynyddol newydd.
Cafodd y ddogfen ei chyhoeddi heddiw, ddydd Iau 25 Gorffennaf 2019 yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghampws Prifysgol De Cymru Casnewydd.
Mae’r adroddiad yn amlinellu'r hyn a gyflawnwyd gan y sefydliad yn 2018-19, gan nodi sut rydym wedi cael effaith yn erbyn saith maes blaenoriaeth o waith. Mae hefyd yn cynnwys adroddiadau cynaliadwyedd ac atebolrwydd, ynghyd â'n datganiadau ariannol.
Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Dyma'r Adroddiad Blynyddol cyntaf i gynnwys ein cynnydd yn erbyn set newydd sbon o flaenoriaethau strategol i ni. Gyda'n staff rhagorol a thrwy weithio gyda'n holl bartneriaid, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol tuag at gyflawni dyfodol iachach i Gymru.”
Roedd y cyfarfod cyffredinol blynyddol hefyd yn cynnwys trosolwg gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Aneurin Bevan a sesiwn holi ac ateb. Os nad oeddech yn gallu dod i'r digwyddiad (neu ei ddilyn yn fyw ar Facebook), gallwch ei wylio ar ein tudalen Facebook.
Dyma'r saith maes blaenoriaeth y mae'r Adroddiad Blynyddol yn canolbwyntio arnynt:
• Cefnogi datblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.
• Adeiladu a symud gwybodaeth a sgiliau i wella iechyd a llesiant ar draws Cymru.
• Diogelu'r cyhoedd rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol i iechyd.
• Sicrhau dyfodol iach i'r genhedlaeth nesaf.
• Hyrwyddo ymddygiad iach.
• Gwella llesiant meddyliol a chydnerthedd.
• Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd.
Gellir gweld yr Adroddiad Blynyddol ei hun ar y wefan:
Gweithio i gyflawni dyfodol iachach i gymru: Adroddiad Blynyddol 2018-19