Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch fwy amdanom ni yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Ymunwch â ni yn eich Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ddydd Iau 25 Gorffennaf 2019 yng Nghasnewydd.

Mae’n gyfle i gyfarfod ag aelodau’r Bwrdd a chlywed am ein prif gyflawniadau yn ystod 2018/19. Bydd sesiwn holi ac ateb hefyd.

Cynhelir y cyfarfod rhwng 2pm – 4pm ar gampws Prifysgol De Cymru. 

Yn ogystal â rhannu ein cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf, byddwn yn rhoi’r diweddaraf am ein cyflawniadau ariannol ac yn ateb eich cwestiynau, bydd ein staff yn dangos sut maent yn gweithio i wella iechyd y boblogaeth yn lleol yn ein marchnadle.

Rydym hefyd eisiau ymgysylltu â’r rheiny ohonoch sy’n dymuno mynychu, ond yn methu, felly byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy ein cyfryngau cymdeithasol ac yn ffrydio’n fyw ar ein tudalen Facebook , y gallwch ei wylio’n fyw neu ddal i fyny ar ôl y digwyddiad.

Os hoffech ymuno â ni yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni, rhowch wybod i ni trwy anfon e-bost i communications.team@wales.nhs.uk  

Os oes gennych gwestiwn yr hoffech i ni ei ateb ar y diwrnod, anfonwch hwn ar e-bost neu ei gyflwyno trwy gyfrif Twitter neu dudalen Facebook Iechyd Cyhoeddus Cymru erbyn dydd Llun 22 Gorffennaf 2019. 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar y diwrnod.