Mae’r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bryste a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi lansio arolwg cenedlaethol i glywed gan wirfoddolwyr a'r rhai sydd wedi mynd ati yn anffurfiol i roi o’u hamser i helpu eu cymunedau i ymateb i COVID-19.
Ers dechrau’r pandemig, gwyddom fod y nifer uchaf erioed o bobl yng Nghymru wedi rhoi o’u hamser i helpu pobl eraill yn eu cymuned, drwy weithredoedd fel siopa, codi meddyginiaethau, coginio pryd o fwyd neu ddarparu rhywfaint o ofal a chymorth emosiynol. Gwyddom hefyd fod y math hwn o weithredu gwirfoddol ar lawr gwlad yn bwysig iawn o ran meithrin cymunedau cryf a chefnogol ac ar gyfer llesiant unigolion.
Ond rydym am ddeall yn well beth helpodd pobl i ymateb yn y modd hwn; ac i eraill beth oedd y rhwystrau o ran gwneud cymaint ag y byddent o bosibl wedi dymuno ei wneud.
Mae oedolion sydd wedi gwirfoddoli mewn unrhyw ffordd – o gymorth seiliedig ar grŵp hyd at gynorthwyo cymydog – yn cael eu gwahodd i ateb ein harolwg byr yma, i gyfrannu at yr ymchwil bwysig hon. Mae'r ymchwil yn cael ei chynnal gan Strategic Research and Insight ac mae'n agored i bobl 18 oed a throsodd, sy'n byw a/neu yn gweithio/neu'n gwirfoddoli yng Nghymru.
Bydd y canfyddiadau yn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i bartneriaid i ddeall yn well a llywio eu cynllunio er mwyn gwella iechyd y boblogaeth yng Nghymru. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau y gellir cefnogi gwirfoddoli dan arweiniad y gymuned yn well yn y dyfodol.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan y Sefydliad Iechyd, sy'n ymrwymedig i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfrifoldeb statudol i gynnal a chomisiynu ymchwil sy'n darparu gwybodaeth a all ddiogelu iechyd pobl Cymru. I gael gwybodaeth am hyn, ewch i wefan Llywodraeth y DU yma: Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009
I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg, ewch i; dolen i'r dudalen ymchwil a gwerthuso icc.gig.cymru/arolwgcymunedol