Neidio i'r prif gynnwy

Dyfed Edwards yn ymuno â Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi, yn dilyn proses recriwtio penodiadau cyhoeddus ffurfiol, bod Dyfed Edwards wedi cael ei benodi i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’n ymuno fel aelod anweithredol llawn o’r bwrdd, ar dymor o bedair blynedd, fel cynrychiolydd cyffredinol. 

Mae Dyfed wedi bod yn aelod o’r Bwrdd, yn rhannu swydd, gydag Alison Ward, ers mis Ebrill 2018, gyda’r ddau ohonynt yn cyflawni rôl Anweithredol Llywodraeth Leol.

Mae gan Dyfed brofiad helaeth o lywodraeth leol yng Nghymru, yn gwasanaethu fel Arweinydd Cyngor Gwynedd rhwng 2008 a 2017 ac fel Is-lywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Dywedodd Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru “Rwyf wrth fy modd y bydd Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn elwa ar brofiad helaeth Dyfed am bedair blynedd arall ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gydag ef ar y cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau.”

Dywedodd Dyfed Edwards, "Rwyf yn falch iawn o allu cyfrannu at waith Iechyd Cyhoeddus Cymru a gweithio tuag at gyflawni’r uchelgais o Gymru iachach, hapusach a thecach. Mae cyfleoedd cyffrous i weithio gydag eraill a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl mewn cymunedau ar draws Cymru.  Rwyf yn ddiolchgar iawn am y cyfle i gefnogi’r agenda iechyd y cyhoedd ar yr adeg hon."

Penodir pob aelod Anweithredol o’r Bwrdd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dilyn proses recriwtio ffurfiol yn unol â gofynion y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.