Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnu cyllid i helpu mwy o bobl yng Nghymru i fynd i'r afael â'r achosion cynyddol o gam-drin domestig

Cyhoeddwyd: 9 Rhagfyr 2020 

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi sicrhau cyllid i gyflawni gwaith ymchwil hollbwysig ar brofiadau ac ymddygiadau y rhai sy'n dyst i drais a cham-drin a'r arwyddion rhybudd yn ystod COVID-19. 

Ers i'r cyfyngiadau symud ddod i rym ar ddechrau 2020, bu rhybuddion llym gan arweinwyr byd-eang am y risg o “bandemig cysgodol” o gam-drin yng nghartrefi pobl*.

Yng Nghymru, bu cynnydd o 41% mewn cysylltiadau â'r Llinell Gymorth Byw'n Ddi-ofn ers Ebrill 2020**.

Wrth i lawer o'r boblogaeth barhau i gadw at y canllawiau ar “aros gartref”, mae llai o gyfleoedd i oroeswyr geisio cymorth ac i bobl eraill, megis teulu, ffrindiau, gwirfoddolwyr a chydweithwyr sy'n pryderu, ymyrryd. Fodd bynnag, gan fod llawer o bobl yn byw eu bywyd beunyddiol yn y cartref bellach, mae cyfleoedd newydd i grwpiau gwahanol o bobl, gan gynnwys cymdogion, cydweithwyr mewn cyfarfodydd rhithwir a gyrwyr dosbarthu, sylwi ar yr arwyddion sy'n rhybuddio am gam-drin a chymryd camau diogel. 

Bydd yr astudiaeth arloesol, a arweinir gan yr Uned mewn partneriaeth ag Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerwysg ac a gyllidir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ystyried sut y mae profiadau ac ymddygiadau'r rhai sy'n dyst i gam-drin wedi newid ac wedi datblygu yn ystod y cyfyngiadau a gyflwynwyd i reoli COVID-19***.

Bydd yr ymchwil yn helpu i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant ar ymyrryd i'r rhai sy'n dyst i gam-drin a all fod yn amhrisiadwy wrth roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar aelodau'r cyhoedd i ymyrryd yn ddiogel pan fyddant yn dyst i gam-drin neu'n pryderu amdano.

Dywedodd Jonathan Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru: “Mae atal cam-drin domestig yn fater i bawb ac efallai y bydd llawer o bobl yn y sefyllfa o fod yn “dyst” am y tro cyntaf.

“Gall fod yn anodd iawn gwybod beth i'w wneud yn y sefyllfa hon ac mae'n bwysig ein bod yn deall sut mae'r pandemig wedi effeithio ar yr hyn a all fod yn ymyriad sy'n newid bywyd i oroeswyr trais a cham-drin domestig.

“Ar adeg pan fyddwn yn gweld ein teulu a'n ffrindiau yn llai aml nag yr hoffem, gwaetha'r modd, mae'n hanfodol bod mwy o bobl yn gwybod sut i ymyrryd yn ddiogel mewn achosion o gam-drin er mwyn sicrhau bod cymaint o gymorth â phosibl ar gael i bobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau.”

Dywedodd Dr Rachel Fenton, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerwysg: “Mae hyfforddiant i bobl sy'n dyst i gam-drin yn addysgu pobl i adnabod arwyddion cynnar o gam-drin a bod yn hyderus i gymryd camau yn eu cymunedau mewn ffordd ddiogel er mwyn atal rhagor o gam-drin. Gwyddom o'n hymchwil i ymyriadau gan bobl sy'n dyst iddo y gall unrhyw un gymryd camau mewn cysylltiad â cham-drin domestig os caiff yr hyfforddiant cywir, a bod pobl sydd wedi cael hyfforddiant yn defnyddio eu sgiliau newydd ym mhob rhan o'u bywydau.

“Mae'r astudiaeth ymchwil newydd hon yn hanfodol er mwyn deall mwy am y bobl sy'n dod i gysylltiad yn ffisegol ac ar-lein â dioddefwyr o dan amodau cymdeithasol newydd y cyfyngiadau symud a pha gamau y maent yn eu cymryd. Mae hyn yn golygu yn y dyfodol y gallwn annog pobl sydd newydd ddod yn dyst i gam-drin i weithredu a chynnig ffyrdd o'u cefnogi, a thrwy hynny helpu cymunedau a chymdeithas i atal cam-drin o dan amodau'r cyfyngiadau symud a thu hwnt.”

Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r mesurau iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â phandemig y coronafeirws, gan gynnwys cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol, yn hanfodol er mwyn rheoli'r feirws. Fodd bynnag, i rai pobl, mae hyn wedi golygu wynebu mwy o niwed a cham-drin ond gyda llai o fynediad at wasanaethau cymorth a rhyngweithio cymdeithasol.

“Nid oes fawr ddim ymchwil i brofiadau pobl sy'n dyst i gam-drin domestig yn ystod pandemig COVID-19 felly bydd yr astudiaeth hon yn rhoi arweiniad amserol i lywio gwaith polisi ac atal yng Nghymru a thu hwnt.”

Dywedodd Sara Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol, Cymorth i Ferched Cymru,: “Wrth siarad â goroeswyr, mae Cymorth i Ferched Cymru yn ymwybodol mai gyda pherson y mae'r unigolyn yn ei adnabod yn bersonol y bydd yn datgelu profiad o gam-drin gyntaf. Mae'n hollbwysig ei fod yn derbyn ymateb cadarnhaol ac empathetig i'w alluogi i dderbyn y cymorth sydd ei angen arno. Ymyriadau gan bobl agos sy'n datgelu problemau cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn cymunedau; maent yn codi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth arbenigol hanfodol ac yn sicrhau y caiff goroeswyr bob amser ymateb defnyddiol bob tro, ni waeth ble na phryd y byddant yn rhannu eu profiadau.

Yn sgil y cyfnodau clo a'r gofyn i gadw pellter cymdeithasol eleni, lle mae goroeswyr wedi'u hynysu fwy nag erioed a gyda llai o gymorth ar gael, mae ymgysylltu â chymunedau wedi bod yn hollbwysig i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Roedd Cymorth i Ferched Cymru yn gallu addasu a rhoi'r hyn a ddysgwyd o'n cyfraniad at Fenter y Rhai sy'n Bresennol a Chynllun ‘‘gofyn i mi’’ Newid sy'n Para, er mwyn parhau i roi cyngor ac arweiniad i gymunedau ledled Cymru. Ar ôl cyhoeddi ein pecyn adnoddau Rhai sy'n Bresennol, Sefyll gyda Goroeswyr, cynyddodd nifer y galwadau i linell gymorth Byw Heb Ofn gan unigolion â phryderon yn sylweddol – rydym yn croesawu'r buddsoddiad hwn er mwyn gwerthuso'r newidiadau i ddull gweithredu y rhai a oedd yn bresennol yn ystod COVID 19 ac yn credu y gall yr hyn a ddysgwyd helpu pob un ohonom i greu newid sy'n para.’’

Nodiadau

*Lansiodd UN Women, sef endid yn y Cenhedloedd Unedig sy'n hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso menywod, ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ym mis Mai, a oedd yn canolbwyntio ar y cynnydd byd-eang mewn trais domestig yn ystod argyfwng iechyd COVID-19 – https://www.unwomen.org/en/news/in-focus/in-focus-gender-equality-in-covid-19-response/violence-against-women-during-covid-19 

**Data a ddarparwyd gan Cymorth i Ferched Cymru i Uned Atal Trais Cymru fel rhan o'i adroddiad monitro trais misol. Mae data a ddarperir gan Cymorth i Ferched Cymru yn seiliedig ar ystadegau wythnosol sy'n cael eu coladu drwy feddalwedd casglu data ynglŷn â chysylltiadau â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn drwy alwadau, gwe-sgyrsiau, negeseuon testun ac e-bost. Bwriedir llunio dadansoddiad o'r cysylltiadau yng nghyd-destun effaith pandemig y coronafeirws presennol ar sut a phryd mae pobl yn cysylltu â'r Llinell Gymorth, a chaiff ei roi i bobl â diddordeb yn ddidwyll, yn seiliedig ar y data sydd ar gael ar adeg cyhoeddi. Dylid nodi y gall hyn newid os bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael, ac am ei bod yn seiliedig ar ddata wythnosol, efallai na fydd yn gwbl gyson ag adroddiadau misol na chwarterol.  

***Fel rhan o'r astudiaeth, bydd yr Uned yn cynnal arolwg o bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Bydd yr arolwg yn holi cyfranogwyr am eu profiadau o fod yn dyst i gam-drin yn ystod pandemig COVID-19. Caiff yr arolwg ei gynnal yn y Flwyddyn Newydd a gall pobl gofrestru i gymryd rhan drwy fynd i www.violencepreventionunit.com/astudiaeth-profiadau-mynychwyr a chwblhau ffurflen gyswllt.