Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarthwyd dros 1,300 o becynnau prawf llif unffordd mewn pum diwrnod yn yr ymchwiliad i'r clwstwr yng Nghonwy

Mae pobl sy’n byw yng Nghyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn yn cael eu hannog i gael prawf Coronafeirws am ddim er mwyn helpu i atal lledaeniad amrywiolyn Delta o'r Coronafeirws (VOC-21APR-02), hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw symptomau.

Mae pobl yn Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn, Hen Golwyn a Deganwy bellach hefyd yn cael eu hannog i ddod i gael prawf am ddim.

Daeth dros 380 o bobl i gael prawf PCR, a chafodd dros 1,300 o becynnau profion llif unffordd eu dosbarthu mewn dwy uned brofi arbennig rhwng 29 Mai a 3 Mehefin.

Mae cyfanswm o 54 o achosion a gadarnhawyd, tebygol neu bosibl o'r amrywiolyn wedi'u canfod yn yr ardal hyd yma.

Mae trigolion heb symptomau yn cael eu hannog i godi prawf llif unffordd am ddim o uned brofi symudol yn Ysgol Awel y Mynydd, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9RZ.

Bydd y safle ar agor tan ddydd Sul 6 Mehefin, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei adleoli i Fodlondeb, Conwy LL32 8DU tan ddydd Llun 14 Mehefin.

Mae pobl sydd â symptomau Coronafeirws, waeth pa mor ysgafn, hefyd yn cael eu hannog i gael prawf PCR am ddim mewn uned brofi symudol yng Nghanolfan Fusnes Conwy, Lôn y Gyffordd, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX.  Bydd y safle ar agor tan ddydd Llun 14 Mehefin.

Yr oriau agor ar gyfer yr unedau yw 8am i 1pm, a 2pm i 8pm bob dydd.   Gellir cerdded i mewn i'r safleoedd a gyrru drwodd, ac nid oes angen apwyntiad.

Fel arall, gall aelodau o'r cyhoedd gael mynediad at y cyfleuster profi gyrru drwodd presennol ar Builder Street yn Llandudno, sydd ar agor rhwng 8am ac 1pm saith diwrnod yr wythnos.   Er mwyn cael mynediad i'r safle hwn, bydd angen i bobl drefnu apwyntiad drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119.

Mae'r safle hefyd ar agor ar gyfer codi pecynnau hunanbrofi llif unffordd rhwng 2pm ac 8pm bob dydd (gyrru drwodd).

Meddai Richard Firth, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Digwyddiad Amlasiantaeth:

“Diolch yn fawr i bawb yn y gymuned sydd wedi dod i gael prawf.  Drwy gael prawf rydych wedi helpu i gyfyngu ar ledaeniad amrywiolyn Delta.

“Er bod yr ymateb gan drigolion wedi bod yn gadarnhaol iawn, mae mwy y gallwn ei wneud o hyd.  Os ydych yn byw yn yr ardal, mynnwch brawf nawr, hyd yn oed os yw eich symptomau'n ysgafn neu os nad oes gennych unrhyw symptomau o gwbl.

“Er bod yr achosion a nodwyd gennym yn gysylltiedig, cofiwch fod yr amrywiolyn Delta yn mynd ar led.  Arhoswch o leiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill, golchwch eich dwylo'n rheolaidd, a gwisgwch orchudd wyneb lle y bo angen.

“Dylech fanteisio ar y brechlyn pan fydd yn cael ei gynnig i chi, a hunanynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich aelwyd yn datblygu symptomau.”

Yn ogystal â thri symptom mwyaf cyffredin Coronafeirws - twymyn, peswch cyson newydd, neu golli/newid o ran blas ac arogl - mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddynt unrhyw un o restr newydd o symptomau eraill hefyd.

Dyma'r rhain: Symptomau sy'n debyg i symptomau'r ffliw, nad ydynt yn cael eu hachosi gan gyflwr hysbys fel clefyd y gwair, gan gynnwys unrhyw un neu'r cyfan o'r canlynol: myalgia (poen yn y cyhyrau); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi’i rwystro; tisian parhaus; dolur gwddf a/neu grygni, diffyg anadl neu wichian ar y frest; unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol blaenorol.

Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod yr amrywiad Delta (VOC-21APR-02) yn fwy trosglwyddadwy na'r amrywiad Alpha (neu Gaint).  Mae brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolynnau a nodwyd gyntaf yn India ar ôl dau ddos.

Yng Nghymru, cyfanswm nifer yr achosion o'r amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) yw 97 ar hyn o bryd, er bod disgwyl i'r nifer hwn godi.  Nodir nifer yr achosion o'r amrywiolyn yng Nghymru ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru am 12pm ar ddydd Mawrth a dydd Iau.
Yn dilyn gwaith ymchwilio pellach, mae'r niferoedd a gadarnhawyd heddiw yn cynnwys 13 o achosion a gadarnhawyd o amrywiolyn Delta, 10 achos tebygol, a 31 o achosion posibl.

Rhwng 29 Mai a 3 Mehefin, cafodd 383 o bobl brofion PCR, a chododd 1,323 o bobl brofion llif unffordd mewn dwy uned brofi symudol yng Nghanolfan Fusnes Conwy ac Ysgol Awel y Mynydd.