Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar achosion Cryptosporidiwm sy'n gysylltiedig ag ymweliadau â fferm yn y Bont-faen

Cyhoeddwyd: 2 Mai 2025

Datganiad

Cynhaliwyd ail gyfarfod o'r Tîm Rheoli Achosion aml-asiantaeth heddiw (2 Mai) i asesu'r brigiad sy’n parhau o achosion o Gryptosporidiwm sy'n gysylltiedig ag ymweliadau â Siop Fferm y Bont-faen, Fferm Marlborough Grange, Cross Ways, y Bont-faen CF71 7LJ. 

Mae nifer yr achosion sydd wedi'u cadarnhau bellach wedi cyrraedd 47. Oherwydd cyfnod magu'r haint, rydym yn disgwyl y gallai'r nifer hwn gynyddu yn yr wythnosau nesaf.
Mae'r Tîm Rheoli Achosion yn parhau i weithio'n agos gyda'r safle i ymchwilio i'r brigiad o achosion hwn. Mae'r fferm wedi rhoi'r gorau i bob gweithgaredd bwydo anifeiliaid i’r cyhoedd yn wirfoddol ac mae'n cydweithredu â'r ymchwiliad. 
Mae Cryptosporidiwm yn barasit a all achosi salwch gastroberfeddol, sy'n aml yn gysylltiedig â dod i gysylltiad ag anifeiliaid, yn enwedig anifeiliaid fferm ifanc fel lloi ac ŵyn.
Dywedodd Su Mably, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn parhau i ymchwilio i’r brigiad o achosion hwn gyda’n partneriaid. Er bod yr haint fel arfer yn ysgafn ac yn hunan-gyfyngol, gall fod yn fwy difrifol mewn plant ifanc neu bobl â systemau imiwnedd gwan. Rydym yn annog unrhyw un a ymwelodd â'r fferm ac sy'n teimlo'n sâl i gysylltu â'i feddyg teulu neu GIG 111. Ymarfer hylendid da yw'r ffordd orau o amddiffyn eich hun ac eraill.”

Mae prif symptomau haint cryptosporidiwm yn cynnwys:

  • Dolur rhydd dyfrllyd
  • Poenau neu grampiau stumog
  • Cyfog neu chwydu.
  • Twymyn ysgafn
  • Diffyg archwaeth
  • Colli pwysau

Fel arfer, mae symptomau'n dechrau rhwng dau a 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â'r parasit a gallant bara hyd at bythefnos.

Er mwyn helpu i leihau'r risg o haint, atgoffir pobl sy'n ymweld â ffermydd i ddilyn y rhagofalon hylendid hyn:

  • Golchwch eich dwylo'n drylwyr bob amser gyda sebon a dŵr cynnes ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid, ar ôl cyffwrdd ag esgidiau neu ddillad, a chyn bwyta neu yfed. Nid yw hylif diheintio dwylo ag alcohol yn glanhau’n ddigonol. Defnyddiwch sebon a dŵr cynnes bob amser.
  • Peidiwch â bwyta nac yfed wrth gyffwrdd ag anifeiliaid neu gerdded o amgylch y fferm.
  • Dylech osgoi cysylltiad agos ag anifeiliaid – gan gynnwys dal, cwtsio neu gusanu – gan fod hyn yn cynyddu'r risg o salwch yn sylweddol.
  • Tynnwch eich esgidiau a’u glanhau a golchwch eich dwylo ar ôl gadael y fferm.
  • Dylech oruchwylio plant yn ofalus i sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo'n iawn ac yn osgoi cyswllt agos â'r anifeiliaid.
  • Dylai menywod beichiog gymryd gofal arbennig ac osgoi dod i gysylltiad ag ŵyn newydd-anedig yn ystod tymor wyna.

Dylai unrhyw un sydd â symptomau ac sydd wedi ymweld â Siop Fferm y Bont-faen – yn enwedig y rhai a gymerodd ran yn y sesiynau bwydo lloi neu ŵyn – gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio GIG 111 a rhoi gwybod iddynt eich bod wedi ymweld â'r safle.