Neidio i'r prif gynnwy

Dinasyddiaeth Fyd-eang: Lansio modiwl e-ddysgu newydd y GIG

Cyhoeddwyd: 4 Tachwedd 2021

Mae'r Ganolfan Cydlynu Iechyd Rhyngwladol (IHCC), Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’, Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi lansiad yr adnodd e-ddysgu Dinasyddiaeth Fyd-eang cyntaf ar gyfer y GIG.

Mae'r llwyfan dysgu ar-lein am ddim hwn wedi'i anelu at weithwyr iechyd proffesiynol a phawb yn y GIG yng Nghymru, sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am Ddinasyddiaeth Fyd-eang a'r hyn y mae'n ei olygu i'n bywydau bob dydd, deall safbwyntiau rhyngwladol a phrofiadau gweithwyr iechyd proffesiynol a sut y gallwn gyfrannu, helpu gydag atebion a dod yn fwy ymwybodol yn fyd-eang yn y gwaith a'r tu allan iddo. 

Mae'r adnodd wedi'i greu i annog datblygiad dinasyddiaeth fyd-eang a bydd yn galluogi staff y GIG i wneud y canlynol:  

  • Dysgu pam mae anghydraddoldebau yng Nghymru a'r byd a'u heffaith ar iechyd  
  • Cymryd rhan mewn trafodaethau ar iechyd a datblygu rhyngwladol a themâu a phynciau eraill  
  • Cwestiynu safbwyntiau  
  • Herio stereoteipiau  
  • Dysgu am effaith gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a gwleidyddol globaleiddio, yn enwedig ar iechyd a'r GIG  
  • Archwilio eu gwerthoedd eu hunain a sut y maent yn effeithio ar eraill  
  • Gwrando ar safbwyntiau gwahanol, eu deall a'u parchu  
  • Bod yn fyfyriol a datblygu sgiliau meddwl beirniadol  
  • Deall y ffyrdd gwahanol o leihau tlodi byd-eang  
  • Datblygu a chefnogi eu datblygiad personol a phroffesiynol

Wedi'i rannu yn chwe modiwl, sef modiwl craidd a phum modiwl at wraidd y mater gan gwmpasu pynciau fel cymorth a datblygu, iechyd seiliedig ar hawliau, globaleiddio, heddwch a gwrthdaro a newid hinsawdd, mae'r adnodd hwn yn hawdd cael mynediad ato ar lwyfan dysgu electronig y GIG Dysgu@Cymru, yn rhyngweithiol, yn lliwgar ac yn hawdd i'w ddefnyddio a bydd yn amhrisiadwy i bob gweithiwr iechyd proffesiynol y GIG.

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

 “Bydd adeiladu gweithlu sy'n ymwybodol yn fyd-eang nid yn unig yn dod â manteision i'r rhai sy'n gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru, bydd yn creu manteision i'r boblogaeth ehangach.” 

Meddai Dr Gillian Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (Brechlynnau) a fu'n goruchwylio'r prosiect a ddechreuodd yn 2018: 

“Rydym yn byw mewn byd rhyng-gysylltiedig lle mae bygythiadau iechyd lleol yn mynd yn rhai byd-eang yn gyflym iawn, ac mae bygythiadau byd-eang yn cael effaith leol, fel yr ydym wedi gweld gyda phandemig y Coronafeirws, newid hinsawdd, diogelwch bwyd a dŵr a chadwyni meddygol hanfodol a chadwyni cyflenwi eraill. Yn 2017 gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ymrwymiad i ddod yn sefydliad sy'n canolbwyntio'n genedlaethol ac yn gyfrifol yn fyd-eang drwy Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 10 mlynedd. Mae'r adnodd hwn a gyd-gynhyrchwyd ag Oxfam Cymru a Chanolfan Cymru ar gyfer Materion Rhyngwladol yn ehangu ar hyn, ar gyfer pob rhan o GIG Cymru, gan adeiladu ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ‘Iechyd yng Nghymru a thu hwnt i'w ffiniau’ (2012) lle roedd datblygu gweithwyr proffesiynol GIG Cymru fel dinasyddion byd-eang yn un o bedair blaenoriaeth allweddol.” 

Meddai Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru:  

“Rydym wedi bod yn falch iawn o gydweithio ar y modiwlau hyn – mae dinasyddiaeth fyd-eang yn hanfodol i gyflawni'r nodau Llesiant, yn enwedig y nod Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Yn rhy aml, mae cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a gwerthoedd dinasyddiaeth fyd-eang yn gyfyngedig i bobl ifanc – mae'n wych bod y cyfle dysgu gydol oes hwn ar gael i staff y GIG ledled Cymru.” 

Mae'r adnodd wedi'i gomisiynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Oxfam Cymru a chafodd ei lansio ar 4 Tachwedd yng Nghynhadledd Iechyd Cymru ac Affrica 2021. 

Mae'r modiwlau ar gael yma:

GIG Cymru Partnreiaeth Cydwasanaethau Modiwlau e-Ddysgu Dinasyddiaeth Fyd-eang