Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio gwyddor ymddygiad i ddylanwadu ar ailgylchu mewn cartrefi

Cyhoeddwyd: 10 Rhagfyr 2024

Mae'r Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhyddhau adroddiad newydd sydd wedi'i gynllunio i helpu gwneuthurwyr polisi i ddeall ehangder y mathau o ymyriadau newid ymddygiad sy'n ofynnol i newid ymddygiad y boblogaeth. Mae'n cynnwys nifer o enghreifftiau defnyddiol sy'n dangos sut y gall gweithredu amrywiaeth o wahanol fathau o ymyriadau helpu i ddylanwadu ar ymddygiad yn effeithiol. 

Mae'r adroddiad yn adolygiad o wahanol ymyriadau ailgylchu mewn cartrefi a gynhaliwyd rhwng 2003-2023 yng Nghymru. Mae'n tynnu sylw at yr amrywiaeth o fathau o ymyriadau a ddefnyddiwyd ar gyfer ailgylchu mewn cartrefi, gan newid ailgylchu mewn cartrefi o ymddygiad a gyflawnwyd yn anaml i ymddygiad cymdeithasol sydd wedi'i normaleiddio dros y ddau ddegawd diwethaf.   
 
Yn 2000, canran y gwastraff cartrefi a ailgylchwyd oedd 5.2% yn unig. Dros y ddau ddegawd nesaf cynyddodd hynny i 65.2%. 

Mae'r adroddiad yn defnyddio'r model COM-B (Galluogrwydd, Cyfle, Cymhelliant, Ymddygiad) i ddisgrifio'r ymyriadau a ddefnyddiwyd dros amser, a'r rhwystrau ymddygiadol yr oeddent yn ceisio eu goresgyn. Cafodd rhwystrau cynnar, fel cyfleusterau annigonol a diffyg eglurder ynghylch arferion ailgylchu, eu datrys drwy ymyriadau wedi'u targedu fel darparu biniau priodol a chyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu clir. 

Mae'r enghraifft o ailgylchu mewn cartrefi yn dangos: 

  • Yr amrywiaeth o fathau o ymyriadau a swyddogaethau wedi'u cynnal sy'n ofynnol i newid ymddygiad. 
  • Yr angen i weithredu ymyriadau newid ymddygiad ar lefelau unigol a strwythurol yn dibynnu ar y rhwystrau a'r hwyluswyr 
  • Gallai gwyddor ymddygiad fod wedi'i hintigreiddio'n gynharach yn y broses o lunio polisïau, a allai fod wedi cyflawni cyfradd ailgylchu uwch yn gyflymach.  

Ymhlith canfyddiadau allweddol yr adroddiad roedd: 

Cymell: Roedd mentrau fel cynllun ernes digidol Cyngor Sir Conwy ar gyfer poteli plastig wedi annog ailgylchu drwy gynnig gwobrwyon, gan hybu cymhelliant ymhlith trigolion. 

Ailstrwythuro Amgylcheddol: Roedd cyflwyno biniau du llai yng Nghaerdydd wedi lleihau gwastraff tirlenwi ac yn anuniongyrchol wedi annog mwy o aelwydydd i ailgylchu. 

Deddfwriaeth: Mae polisïau fel y tâl 5c ar fagiau plastig untro a'r gwaharddiad yn 2023 ar blastigau untro penodol wedi lleihau gwastraff yn sylweddol. 

Addysg a Hyfforddiant: Cododd ymgyrchoedd fel “Bydd Wych, Ailgylcha” ymwybyddiaeth o ailgylchu gwastraff bwyd, plastig a metel, a gwnaeth rhaglenni ysgol addysgu plant ar ddidoli deunyddiau y gellir eu hailgylchu. 

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu pwysigrwydd ymddygiad arferol a dylanwadau cymdeithasol wrth gynnal newid. Bydd y dulliau hyn yn helpu i fynd i'r afael â materion fel lleihau plastigau untro, hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac annog trafnidiaeth gynaliadwy. 

Meddai Jason Roberts, Uwch-swyddog Ymchwil a Gwerthuso Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi cael llwyddiant ysgubol o ran ailgylchu mewn cartrefi, gan arwain y gyfradd ar gyfer gwastraff cartrefi yn y DU. 

“Mae llwyddiant ailgylchu mewn cartrefi yng Nghymru i'w briodoli'n rhannol i'r cymysgedd o fathau o ymyriad a aeth i'r afael â sawl penderfynydd ymddygiadol dros gyfnod hir o amser. 

“Gallai integreiddio gwyddor ymddygiad yn gynharach yn y broses o lunio polisïau i newid ymddygiad ailgylchu mewn cartrefi fod wedi helpu i ddatblygu a gweithredu'r cymysgedd cywir o ymyriadau yn gyflymach, sef budd hanfodol o ystyried brys yr argyfwng hinsawdd.  

“Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd deall rhwystrau i weithredu a mynd i'r afael â nhw, a fydd yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol.”