Cyhoeddwyd: 16 Rhagfyr 2024
Mae dadansoddiad newydd o ddarpariaeth gofal ailalluogi mewn dau awdurdod lleol yng Nghymru yn nodi y gall gwasanaethau o'r fath arwain at lai o bobl y mae angen cynlluniau gofal hirdymor arnynt.
Canfu ymchwil o Labordy Data Rhwydweithiol (NDL) Cymru, er bod gwasanaethau ailalluogi yn amrywio o ran sut maent yn cael eu trefnu a'u darparu ledled Cymru, rhoddwyd cynlluniau gofal hirdymor i lai o bobl ar ôl defnyddio'r gwasanaethau hyn. Mae NDL Cymru yn bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Prifysgol Abertawe, a Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'n un o bum tîm dadansoddol a gyllidir gan y Sefydliad Iechyd i ymchwilio i heriau sy'n wynebu iechyd a gofal drwy ddata cysylltiedig.
Gweithiodd NDL Cymru gydag awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf, gan gysylltu data ailalluogi â chofnodion iechyd, i gynhyrchu'r data newydd hyn. Cynhaliwyd yr holl ddadansoddi data yn Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw).
Ymhlith rhai o ganfyddiadau allweddol y data mae:
Mae gofal ailalluogi yn chwarae rhan hanfodol wrth alluogi unigolion i adennill neu gynnal y sgiliau angenrheidiol ar gyfer byw'n annibynnol. O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, rhaid i awdurdodau lleol Cymru gynnig gwasanaethau sy'n atal neu'n oedi'r angen am ofal hirdymor. Mae wedi bod yn heriol deall pwy sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn, beth yw eu hanghenion iechyd, a sut y maent yn cael mynediad at ofal oherwydd daw'r data o sawl ffynhonnell, a gesglir yn aml at wahanol ddibenion.
Mae gofal ailalluogi yn hanfodol wrth gynorthwyo annibyniaeth a lleihau'r ddibyniaeth ar ofal hirdymor yng Nghymru. Mae data o StatsCymru yn dangos nad oedd y rhan fwyaf o becynnau gofal ailalluogi yn arwain at angen am ofal hirdymor, sef tuedd a welir ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn yn dangos ei bod yn bosibl cysylltu data awdurdodau lleol â chofnodion iechyd dienw er mwyn deall yn well pwy sy'n cael mynediad at ofal ailalluogi yng Nghymru.
Amlygodd yr astudiaeth hon hefyd yr heriau o ran cysondeb data ar draws awdurdodau lleol Cymru. Mae'r gwahaniaethau o ran sut y mae data gofal ailalluogi yn cael eu casglu a'u cofnodi yn ei gwneud yn fwy anodd cael dealltwriaeth gynhwysfawr o ganlyniadau. Drwy fabwysiadu safonau a diffiniadau data cyffredin, gallai awdurdodau lleol gael dealltwriaeth fanylach o ganlyniadau iechyd a gwerthuso effaith gofal ailalluogi yn well. Byddai'r defnydd hwn o ddata yn helpu gwasanaethau i ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf mewn angen, cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth a gwerthuso modelau gofal newydd i ysgogi arloesedd iechyd a gofal cymdeithasol.
Cyfrannodd ein dadansoddiad at adroddiad Labordy Data Rhwydweithiol y DU gan y Sefydliad Iechyd [Are intermediate care services stretched too thin? | Y Sefydliad Iechyd] a amlygodd gymhlethdod gofal canolraddol ar draws systemau iechyd a gofal gwahanol, a heriau a phwysigrwydd rhannu data er mwyn deall canlyniadau yn well.
Meddai Laura Bentley, Uwch-swyddog Ymchwil Iechyd Cyhoeddus: “Mae'r adroddiad newydd hwn yn amlygu pŵer cysylltu data wrth ddarparu dealltwriaeth werthfawr o'r rhai sy'n cael mynediad at ofal ailalluogi yng Nghymru.
“Rydym yn gobeithio bod y canfyddiadau hyn yn dangos pwysigrwydd cyfuno data awdurdodau lleol â chofnodion iechyd electronig a gesglir fel mater o drefn ym manc data SAIL.
“Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth fanwl o'r unigolion hynny sy'n cael mynediad at ofal ailalluogi ac yn helpu awdurdodau lleol i ddeall gwasanaethau yn eu rhanbarthau.”
“Drwy ddeall pwy sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn a sut y maent yn cael mynediad atynt, gallwn gynorthwyo awdurdodau lleol yn well i gynllunio a darparu gofal sydd wir yn diwallu anghenion eu cymunedau.”