Cyhoeddwyd: 2 Rhagfyr 2022
Meddai Dr Ardiana Gjini, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chyngor Bro Morgannwg yn dilyn marwolaeth disgybl yn Ysgol Gynradd Victoria, Penarth. Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â'r teulu, ffrindiau a phawb yr effeithir arnynt.
“Ni all Iechyd Cyhoeddus Cymru wneud sylw am achosion unigol, a gofynnwn i breifatrwydd y teulu gael ei barchu.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda’r ysgol i godi ymwybyddiaeth o glefyd Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS).
“Er ei bod yn annhebygol bod haint iGAS wedi effeithio ar eu plentyn, mae unigolion perthnasol yn cael eu cynghori y dylent ymgyfarwyddo â'r symptomau a beth i'w wneud os bydd y symptomau hyn yn digwydd.
“Mae dal clefyd iGAS o gyswllt yn brin iawn. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod i gysylltiad â Haint Streptococol Grŵp A yn aros yn iach ac yn rhydd o symptomau, neu'n datblygu heintiau gwddf ysgafn neu heintiau ysgafn ar y croen.”
Mae symptomau iGAS yn cynnwys:
Mae grŵp o unigolion yn cael eu cynghori i gysylltu â'u meddyg teulu neu gael cyngor meddygol heb oedi os ydynt yn credu bod gan eu plentyn unrhyw un o arwyddion a symptomau clefyd iGAS.
Atgoffir rhieni i ystyried brechlyn ffliw chwistrell drwynol i'w plant lle y bo'n briodol.