Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr achosion o mpox yn y DU

Cyhoeddwyd: 20 Mai 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), Iechyd Cyhoeddus yr Alban, ac Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon er mwyn ymateb i achosion o mpox yn y DU.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion o mpox wedi'u nodi yng Nghymru.

Dywedodd Richard Firth, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y DU i fonitro achosion o mpox yn y DU ac ymateb iddynt. Mae mpox yn glefyd prin sydd wedi'i nodi'n bennaf yng ngwledydd canolbarth a gorllewin Affrica. Nid oes unrhyw achosion wedi'u nodi yng Nghymru hyd yma.

“Nid yw mpox yn lledaenu'n hawdd rhwng pobl ac mae'r risg gyffredinol i'r cyhoedd yn isel iawn. Mae fel arfer yn salwch ysgafn hunangyfyngol, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn ychydig wythnosau. Fodd bynnag, gall salwch difrifol ddigwydd mewn rhai unigolion.”

Ymhlith symptomau cychwynnol mpox mae twymyn, pen tost/cur pen, poenau yn y cyhyrau, poen cefn, nodau lymff chwyddedig, oerfel a blinder.

Gall brech ddatblygu, dan ddechrau'n aml ar yr wyneb, yna lledaenu i rannau eraill o'r corff, yn enwedig y dwylo a'r traed.

Mae'r frech yn newid ac yn mynd drwy wahanol gamau cyn magu crachen, sy'n disgyn yn ddiweddarach.

Cynghorir unrhyw un sydd â phryderon y gallent fod wedi'u heintio â brech y mwncïod i gysylltu â GIG 111.