Cyhoeddwyd: 17 Ionawr 2025
Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda Dŵr Cymru i ymateb i’r prinder dŵr a achoswyd gan y digwyddiad yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd yn Nolgarrog, Conwy.
“Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cyflenwi dŵr potel, sy’n ddiogel ar gyfer yfed, coginio, ac ymolchi. I'r rhai sy'n paratoi llaeth fformiwla i fabanod, mae'r dŵr potel a ddarperir yn ddiogel i'w ddefnyddio unwaith y bydd wedi'i ferwi a'i oeri.
“Rydym yn annog pawb i barhau i yfed dŵr fel y byddent fel arfer er mwyn osgoi’r risgiau o ddadhydradu. Mae hylendid dwylo yn parhau i fod yn hollbwysig, a sicrhewch eich bod yn parhau i olchi'ch dwylo'n drylwyr ar ôl defnyddio'r toiled a chyn paratoi bwyd i atal y salwch rhag lledaenu.
“Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Diolchwn i’r gymuned am eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad wrth i ni reoli’r digwyddiad hwn gyda’n gilydd.”
Am fwy o wybodaeth, ewch i'n tudalennau gwe tywydd ac iechyd .