Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch beth ddigwyddodd yn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol 2019

Eleni, cynhaliwyd ein cyfarfod cyffredinol blynyddol yng Nghasnewydd ddydd Iau 25 Gorffennaf. 

Cawsom gynulleidfa o bartneriaid ym maes iechyd cyhoeddus, yn ogystal â dau grŵp o bobl ifanc rydym wedi gweithio gyda nhw i baratoi Datganiad Ansawdd Blynyddol,  eleni, y Datganiad Ansawdd Pobl Ifanc a Hanesion Iach. 

Gwnaethom hefyd lansio ein Hadroddiad blynyddol newydd

Roedd cydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y digwyddiad hefyd, gan chwarae rhan enfawr wrth redeg y farchnad ac ymuno â'r gynulleidfa ar gyfer y cyflwyniad a'r sesiwn holi ac ateb.

 
Meddai Jan Williams, Cadeirydd: 
“Roedd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni yn brynhawn gwych gan ddangos blwyddyn eithriadol o lwyddiant yn 18/19. 

“Roedd Tracey a minnau'n byrlymu â balchder ar y diwrnod ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn i ddod pan fyddwn yn mynd o nerth i nerth.”

Gwyliwch y fideo isod i glywed barn Tracey Cooper, Prif Swyddog Gweithredol a Jan Williams, Cadeirydd, am y diwrnod.