Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd mewn profion Hepatitis C mewn carchardai ers cyflwyno profion optio allan

I gyd-fynd â Diwrnod Hepatitis y Byd 2019 ddydd Sul 28 Gorffennaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhyddhau ffigurau newydd sy'n dangos cynnydd cyson mewn profion am y feirws hepatitis C (HCV) mewn carchardai yng Nghymru.

I gyd-fynd â Diwrnod Hepatitis y Byd 2019 ddydd Sul 28 Gorffennaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhyddhau ffigurau newydd sy'n dangos cynnydd cyson mewn profion am y feirws hepatitis C (HCV) mewn carchardai yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2016, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru Gylchlythyr Iechyd Cymru yn cyflwyno profion optio allan ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed ar draws carchardai yng Nghymru.  Ers hynny mae nifer yr unigolion a brofwyd mewn carchardai yng Nghymru wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
Yn 2018, cafodd 3888 o unigolion eu profi, sef 44.4% o boblogaeth y carchardai.

Mae gwasanaethau triniaeth arbenigol ar gael bellach ym mhob carchar yng Nghymru sy'n golygu y gall cleifion fynd o'r prawf i'r driniaeth heb orfod gadael y carchar.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i darged Sefydliad Iechyd y Byd o ddileu hepatitis C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd yng Nghymru erbyn 2030.
Ystyrir bod y rhai sydd yn y carchar yn grŵp risg uchel ar gyfer hepatitis C ac felly bydd profi, diagnosis cynnar a thriniaeth y rhai yn y carchar yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddileu hepatitis C yng Nghymru.
Meddai Dr Stephanie Perrett, Nyrs Arweiniol Iechyd a Chyfiawnder yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  “Mae gwasanaethau gofal iechyd mewn carchardai yng Nghymru wedi gweithio'n galed i wella nifer y bobl sy'n cael eu profi ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos hyn.  Ceir cyfleoedd o hyd ar gyfer gwella ac rydym am ystyried dulliau newydd o ymgorffori profion yn y lleoliad carchar”.

“Bydd gweithio mewn partneriaeth ar draws asiantaethau iechyd a chyfiawnder yn ein helpu i ddileu heintiau hepatitis C mewn carchardai ac yn ehangach ledled Cymru.”

Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed sy'n effeithio ar yr afu ac sy'n gallu achosi sirosis yr afu a chanser yr afu os na chaiff ei drin.  Mae meddyginiaethau newydd wedi chwyldroi'r driniaeth o hepatitis C fel bod modd ei drin bellach mewn 9 o bob 10 o bobl pan gaiff ei drin yn gynnar.
Gellir lledaenu hepatitis C drwy gysylltiad rhwng gwaed a gwaed gan gynnwys drwy'r defnydd o gyfarpar chwistrellu halogedig wrth ddefnyddio cyffuriau hamdden.

Mae mwy o wybodaeth am hepatitis C ar gael yma:

Hepatitis C