Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd mewn heintiau anadlol ymhlith plant yng Nghymru cyn y gaeaf

Cyhoeddwyd: 23 Gorffennaf 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i fod yn ymwybodol o'r arwyddion o salwch anadlol mewn plant ifanc, gan fod data'n dangos bod achosion yn cynyddu'n sydyn.

Mae gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod samplau positif Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) wedi cynyddu dros y pedair wythnos ddiwethaf yn olynol o 1.9 y cant i 9.9 y cant.

Mae rhieni yn cael eu hannog i gadw llygad am symptomau haint difrifol ymhlith plant mewn perygl, gan gynnwys tymheredd uchel o 37.8°C neu uwch (twymyn), peswch sych a chyson, anhawster bwydo, anadlu cyflym neu swnllyd (gwichian ar y frest).

Mae heintiau anadlol mewn plant ifanc wedi dechrau codi y tu allan i'r tymor, yn dilyn lefelau heintio isel mewn ymateb i gyfyngiadau COVID-19 a'r mesurau rheoli heintiau da sydd wedi bod ar waith.
Meddai'r Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio a'r Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Meng Khaw:

“Oherwydd y cyfyngiadau COVID y mae'r cyhoedd yng Nghymru wedi'u dilyn dros y gaeaf diwethaf, prin iawn oedd yr achosion o RSV, ond mae'r feirws hwn bellach yn dychwelyd wrth i bobl gymysgu mwy.

“Mae RSV yn salwch anadlol cyffredin sydd fel arfer yn cael ei godi gan blant yn ystod tymor y gaeaf, a phrin iawn yw'r problemau a achosir ganddo, i'r rhan fwyaf o blant.  Fodd bynnag, gall babanod ifanc iawn, yn enwedig y rhai sy'n cael eu geni'n gynamserol, a phlant â chyflyrau'r galon neu'r ysgyfaint, gael eu heffeithio'n ddifrifol ac mae'n bwysig bod rhieni'n ymwybodol o'r camau i'w cymryd.

“Y ffordd orau o atal RSV yw golchi dwylo â sebon a dŵr neu hylif diheintio dwylo yn rheolaidd, cael gwared ar hancesi papur a ddefnyddiwyd yn gywir, a chadw arwynebau'n lân a'u diheintio.
“Os ydych yn poeni am eich plentyn, ffoniwch eich meddyg teulu neu GIG 111, ac os yw'n cael problemau anadlu yna ffoniwch 999 ar unwaith.”

Meddai'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Mae angen i holl rieni a gofalwyr babanod a phlant ifanc fod yn ymwybodol o arwyddion RSV. 
“Yn y mwyafrif helaeth o achosion ni fydd y salwch hwn yn ddifrifol a byddant yn gwella'n fuan. Ond rwy’n annog pob rhiant a gofalwr i gadw llygad am arwyddion y feirws hwn.”

Meddai Prif Swyddog Nyrsio Dros Dro Llywodraeth Cymru, Gareth Howells:

“Hoffwn sicrhau rhieni na fydd mwyafrif yr achosion o RSV, sef y feirws anadlol mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod, yn ddifrifol a bydd babanod a phlant ifanc yn gwella'n gyflym ar ei ôl.

“Ond yr haf hwn, rydym yn gweld nifer uwch nag arfer o achosion ymhlith plant o dan ddwy oed. Mae cyfyngiadau Covid wedi codi'r risgiau o haint mwy eang wrth i reolau cadw pellter cymdeithasol gael eu llacio a babanod a phlant ifanc yn cael mwy o gysylltiad â theulu a ffrindiau.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r GIG yng Nghymru sydd â chynlluniau ar waith ar gyfer amrywiaeth eang o faterion cyn y gaeaf gan gynnwys cynnydd mewn RSV a bydd yn parhau i addasu'r cynlluniau hyn yn ôl yr angen.”

Mae salwch anadlol, gan gynnwys annwyd ac RSV yn gyffredin iawn mewn plant ifanc ac fe'u gwelir bob blwyddyn.

RSV yw'r feirws anadlol mwyaf cyffredin mewn plant ifanc, ac mae'n cyflwyno fel haint anadlol uchaf.  Mewn amgylchiadau arferol, bydd y rhan fwyaf o blant wedi cael RSV erbyn eu pen-blwydd yn dair oed.

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, mae nifer y plant nad ydynt wedi dod i gysylltiad ag RSV o fewn y boblogaeth bresennol gryn dipyn yn uwch nag arfer, gan gynyddu'r risg o heintio yn fwy eang wrth i reolau cadw pellter cymdeithasol gael eu llacio.

I'r rhan fwyaf o blant, ni fydd y salwch hwn yn ddifrifol a byddant yn gwella'n fuan ar ôl gorffwys a chael digon o hylifau. 

Fodd bynnag, gall rhai plant o dan ddwy oed, yn enwedig y rhai sy'n cael eu geni'n gynamserol neu sydd â chyflwr ar y galon, ddioddef canlyniadau mwy difrifol o'r heintiau cyffredin hyn fel bronciolitis, sef haint llidiol ar y llwybrau anadlu is – sy'n gallu ei gwneud yn anodd anadlu.

Mae symptomau cynnar bronciolitis yn debyg i rai annwyd cyffredin ond gallant ddatblygu dros ychydig ddiwrnodau i dymheredd uchel o 37.8°C neu uwch (twymyn), peswch sych a chyson, anhawster anadlu, anadlu cyflym neu swnllyd (gwichian ar y frest).

Nid yw'r rhan fwyaf o achosion o fronciolitis yn ddifrifol a byddant yn clirio o fewn 2 i 3 wythnos, ond dylech gysylltu â'ch meddyg teulu neu ffonio GIG 111 os:

  • Ydych yn poeni am eich plentyn.
  • Os yw eich plentyn wedi cymryd llai na hanner ei swm arferol yn ystod y ddau neu dri bwydo diwethaf, neu maent wedi cael cewyn sych am 12 awr neu fwy.
  • Os oes gan eich plentyn dymheredd uchel parhaus o 37.8C neu uwch.
  • Os yw eich plentyn yn ymddangos yn flinedig iawn neu'n flin.

Ffoniwch 999 am ambiwlans os:

Er bod y niferoedd yn isel o hyd, disgwylir i heintiau anadlol mewn plant gynyddu dros yr haf ac wrth i ni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf.