Cyhoeddwyd: 28 Tachwedd 2024
Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn erbyn cynllun gweithredu i wella cymorth rheoli pwysau mewn gofal sylfaenol a chymunedol, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r adroddiad newydd yn dweud bod gweithgarwch sylweddol wedi digwydd mewn perthynas â 24 o 29 o gamau gweithredu a nodir yn y Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud o hyd, yn enwedig mewn meysydd sy'n ehangach o ran cwmpas nag atal gordewdra.
Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud cyfres o argymhellion i sicrhau bod cynnydd yn parhau.
Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i:
Ochr yn ochr â'r adroddiad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi ffeithlun i helpu gwneuthurwyr polisi, ymarferwyr ac ymchwilwyr i gynorthwyo rheoli pwysau ôl-enedigol yn well mewn gofal sylfaenol a chymunedol.
Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol yn 2022 i gefnogi'r gwaith o weithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan 2021 i oedolion.
Datblygwyd y cynllun er mwyn galluogi gofal sylfaenol a chymunedol i gefnogi rheoli pwysau drwy bedwar nod blaenoriaeth: taith sy'n canolbwyntio ar y person; gweithlu gofal sylfaenol a chymunedol; data a digidol; ac arweinyddiaeth a llywodraethu.
Mae'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn y cynllun wedi'u cyflawni drwy weithgarwch mewn pedwar maes ‘sbotolau’:
Meddai Dr Amrita Jesurasa, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ar gyfer yr Adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'n wych gweld cynnydd o'r fath yn erbyn y Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol.
“Mae atal gordewdra yn her gymhleth sy'n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ac unigolion wthio i'r un cyfeiriad. Hoffwn gydnabod ymrwymiad ac ymdrechion sylweddol ein partneriaid yn lleol ac yn genedlaethol, mewn gofal sylfaenol a chymunedol, ac ym maes iechyd cyhoeddus, gan gynnwys aelodau o'n Grŵp Llywio Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol amlasiantaethol.
“Mae partneriaid ledled Cymru yn gweithio'n galed i atal y cynnydd a gwrthdroi'r duedd mewn lefelau dros bwysau a gordewdra yng Nghymru.
“Ond mae mwy i'w wneud. Dyna pam rydym yn gobeithio y bydd pobl sy'n gweithio ar ddatblygiadau mewn polisi ac ymarfer sy'n gysylltiedig â gofal sylfaenol a chymunedol yn edrych ar yr adroddiad hwn ac yn ystyried yr argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.”
Lansiwyd y Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gefnogi'r gwaith o weithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan 2021, yn unol â Chynllun Cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2022-24.
Mae'r Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan yn canolbwyntio ar daith rheoli pwysau unigolyn o ymyrryd yn gynnar hyd at gymorth arbenigol ac mae'n cydnabod pwysigrwydd gofal sylfaenol a chymunedol, gan ddisgrifio'r lleoliadau hyn fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl â phryderon iechyd a llesiant.
Mae gofal sylfaenol a chymunedol yn cwmpasu ystod eang ac amrywiol o leoliadau a rolau, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: y pedwar contractwr gofal sylfaenol (Fferylliaeth Gymunedol, Optometreg Gymunedol, Practis Deintyddol, Practis Cyffredinol); gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd; y rhai sy'n gweithio mewn rolau cymunedol ehangach e.e. bydwragedd cymunedol, ymwelwyr iechyd, a nyrsys ardal; y gweithlu gofal iechyd heb ei gofrestru; a rhagnodwyr cymdeithasol.