Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun gweithredu bioamrywiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu pwysigrwydd mannau gwyrdd wrth leihau anghydraddoldebau iechyd

Cyhoeddwyd: 6 Rhagfyr 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei ail gynllun gweithredu bioamrywiaeth sy'n amlinellu'r gwaith y bydd yn ei wneud fel rhan o'i ddyletswydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd.  Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar  bwysigrwydd bioamrywiaeth ar gyfer iechyd a llesiant a'r camau gweithredu y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cymryd i fod yn hyrwyddwr natur.

Mae'r cynllun yn dweud nad oes gan bobl yng Nghymru fynediad cyfartal at natur a mannau gwyrdd a bod gan y rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig y mynediad lleiaf.  Mae sawl astudiaeth wedi tynnu sylw at y cysylltiad rhwng mynediad at fannau gwyrdd a chanlyniadau beichiogrwydd ac iechyd gwaeth i bobl o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.   

Gall sicrhau bod gan bobl mewn ardaloedd difreintiedig fwy o fynediad at fannau gwyrdd fod yn anodd sy'n cael ei anwybyddu ar gyfer mynd i'r afael ag annhegwch iechyd, gydag ymchwil yn dangos y gall cynnydd o 10 y cant yn unig o ran dod i gysylltiad â mannau gwyrdd mewn lleoliadau trefol leihau problemau iechyd a gwella llesiant. 

Drwy ei raglenni a'i bartneriaethau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i wella mynediad at fannau gwyrdd, yn ogystal â hyrwyddo bioamrywiaeth a chadernid ecosystem drwy leihau ein hallyriadau carbon, ein gwastraff a'n heffaith ar yr amgylchedd.  

Meddai Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae cyfoeth o dystiolaeth i ddangos bod cynyddu mynediad at fannau gwyrdd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant pawb yn y gymuned.  Mae cynllun gweithredu bioamrywiaeth diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych ar sut y gallwn ehangu mynediad at fannau gwyrdd er mwyn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a chynorthwyo dyfodol sy'n gyfoethog o ran natur i Gymru.” 

Gellir dod o hyd i'r adroddiad yma:

Hyrwyddo Byd Natur er budd Dyfodol Iach  - Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth  Iechyd Cyhoeddus Cymru 2024 - 2027