Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Cofrestru Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd yn derbyn ceisiadau

Cyhoeddwyd: 27 Awst 2021

Mae'r cynllun cofrestru yn galluogi ymarferwyr o bob rhan o'r gweithlu iechyd y cyhoedd i gydnabod eu sgiliau a'u gwybodaeth.

Mae'r cynllun yn caniatáu i ymarferwyr gofrestru gyda Chofrestr Iechyd y Cyhoedd y DU - cydnabyddiaeth o'u gwybodaeth a'u sgiliau craidd. I gofrestru, mae'n rhaid i ymarferwyr ddarparu portffolio sy'n dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u cymhwyso i gwrdd â safonau ymarferwr.

Dywedodd Kelly McFadyen, Rheolwr Dysgu a Datblygu:

“Mae ymarferwyr gwych yn gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae ymuno â Chofrestr Iechyd y Cyhoedd y DU yn caniatáu iddynt gyfuno eu sgiliau a'u gwybodaeth a chael eu cydnabod yn broffesiynol.

“Byddwn yn annog ymarferwyr sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cynllun i ddarllen ein tudalennau gwe i ddarganfod rhagor ac i gysylltu â chydweithwyr sydd eisoes wedi cwblhau'r cynllun i ddarganfod beth yw e."

Gallwch chi gofrestru ar gyfer y cynllun o heddiw ymlaen a bydd yn cau ar 24 Medi 2021. Mae'r cynllun ar gael i bob ymarferydd sy'n gweithio mewn lleoliad iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â PeopleSupport.PHW@wales.nhs.uk

Darllenwch ragor am Gofrestru Ymarferwyr ar ein tudalen we https://icc.gig.cymru/gyrfaoedd/cynllun-cofrestru-ymarferwyr-iechyd-cyhoeddus-i-gymru/ neu ar wefan UKPHR https://ukphr.org/practitioner/