Mae'r dyddiad yn nesáu, gyda dim ond pythefnos i fynd tan Gynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019!
Fel arfer, mae ein rhaglen wedi'i chynllunio i hysbysu, addysgu ac ysbrydoli cydweithredu. Gyda'n prif sesiwn lawn wedi'i hategu gan 18 o sesiynau sbotolau, ein Sgyrsiau Sydyn a’n heriau Meddyliathon newydd, I bydd amrywiaeth eang o bynciau i'w trafod dros y ddau ddiwrnod.
Gallwch darganfod ragor o wybodaeth am y siaradwyr, sesiynausbotolau sgyrsiau sydyn a’r sesiynau meddyliathon yma.
https://www.cicc.cymru/rhaglen
Bydd eich cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu hanfon allan yn fuan, gyda'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fynd i mewn i'r digwyddiad. Mae’r wybodaeth hefyd isod:
Dydd Iau 17 Hydref: Cyrraedd a chofrestru 9:00 a.m. – 9:45 a.m.
Mae'r brif sesiwn lawn yn dechrau am 10:00 a.m.
Dydd Gwener 18 Tachwedd: Cyrraedd a chofrestru 9:15 a.m. – 9:45 a.m.
Mae'r brif sesiwn lawn yn dechrau am 10.00 a.m.
Bydd eich bathodyn ar gael i’w gasglu ar y diwrnod. Bydd eich dewis sesiynau sbotolau, os ar gael, wedi cael eu hargraffu ar eu cefn. Bydd y bathodynnau’n cael eu hargraffu ar gerdyn y gallwch ei ailgylchu. Dewch â chortyn gyda chi!
Cariwch eich bathodyn gyda chi ar bob adeg oherwydd efallai y gofynnir i chi ddangos hwn i gael mynediad i sesiynau Sbotolau sy'n llawn.
I'n helpu i leihau gwastraff bydd rhaglen y gynhadledd ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan ar y diwrnod.
Rhowch wybod i ni os na allwch ymuno a ni mwyach.
Rydym wedi cael ymateb ysgubol i’r gynhadledd – sy’n golygu ein bod bellach un agos at y capasiti. Os nad ydych bellach yn gallu bod yn bressennol anfonwch neges e-bost at Allison.pinneycollis@wales.nhs.uk cyn gynted a phosibl, fel y gallwn roi’r lle i rywun arall.